Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Awst 2013

Pwyso am gadoediad

Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi cadarnhau na fydd y Deyrnas Unedig yn ymuno ag unrhyw ymosodiad ar Syria, wedi i ASau bleidleisio yn erbyn cynnig ei lywodraeth.

Pleidleisiodd 285 yn erbyn yr egwyddor o weithredu milwrol, tra bod 272 wedi ei gefnogi.

Yn sgil y bleidlais neithiwr, mae un o arweinwyr Cristnogol Cymru yn annog Llywodraeth Prydain i lobïo cynghreiriaid Syria, fel Rwsia ac Iran, i bwyso am gadoediad.

“Er bod doethineb wedi trechu’r awydd i ymyrrid yn filwrol, rhaid i Brydain gynnal y momentwm trwy fynd ati o ddifri i geisio cymod trwy ddulliau diplomyddol," meddai'r Parchg Ron Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. 

"Rwy'n mawr obeithio y bydd yr Unol Daleithiau hefyd yn camu nôl o'r dibyn gan gydnabod y gallai ymosod ar Syria gael canlyniadau trychinebus ar draws y Dwyrain Canol - neu hyd yn oed yn fyd-eang," meddai.

Ychwanegodd y Parchg Ron Williams bod hi’n hanfodol i'r Cenhedloedd Unedig ddwyn pwysau cynyddol ar lywodraeth Assad a’r gwrthryfelwyr fel ei gilydd er mwyn atal y trais a chaniatáu i gymorth dyngarol leddfu’r dioddefaint mawr yn Syria.

Rhannu |