Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Awst 2013

Mae enwebiadau ar agor ar gyfer arwyr iechyd lleol

Mae Gwobrau Staff Gorau Iechyd 2013 Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar agor i geisiadau.  

Trefnir y gwobrau gan y bwrdd iechyd er mwyn cydnabod a gwobrwyo staff sydd yn gwneud mwy na’i gwaith bob dydd.  

Mae categorïau’n cynnwys Gwella Iechyd a Lles, Gwella Profiad y Claf (gan gynnwys diogelwch, urddas a pharch), Arwr Clodwiw a Gwirfoddolwr y Flwyddyn.

Roedd enillwyr ac enwebiadau llynedd yn dod o ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynrychioli’r maes eang o yrfaoedd sydd ar gael o fewn y GIG a’r cyfraniad maent yn eu gwneud i ofal cleifion ac achub bywydau.

Dywedodd Janet Wilkinson Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol: “Mae hyn yn gyfle i aelodau’r cyhoedd, yn ogystal â’n staff, i enwebu pobl sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o fewn gofal iechyd.”  

Caiff yr enwebiadau eu beirniadu gan banel fydd yn cynnwys Cyfarwyddwyr Gweithredol, Aelodau Annibynnol y Bwrdd a chynrychiolydd o Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Tachwedd 2013. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn Ionawr 2014.

Gall pawb weld yr holl gategorïau a lawrlwytho’r ffurflen gais yma

http://www.bihyweldda.wales.nhs.uk/gwobraustaffgorauiechyd

Llun: Janet Wilkinson

Rhannu |