Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Awst 2013

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn rhoi rhybudd am Syria

Mae un o arweinwyr Cristnogol Cymru yn galw ar bobl i gysylltu gyda’u Haelod Seneddol lleol ar frys gan ofyn iddo fe neu hi i bleidleisio yn erbyn ymyrraeth filwrol yn y gwrthdaro yn Syria pan fydd y Senedd yn cwrdd heddiw.

"Ni ddylai Prydain gymryd rhan mewn ymosodiad treisgar a fyddai’n achosi marwolaeth a dioddefaint pellach," meddai'r Parchg Ron Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Mae hefyd yn rhybuddio y gallai gweithredu milwrol gan bwerau’r gorllewin ansefydlogi'r Dwyrain Canol, gyda chanlyniadau dinistriol posibl

 "Rhaid i lywodraeth Prydain ganolbwyntio ar ddwyn perswâd ar Syria trwy fesurau diplomyddol," meddai'r Parchedig Williams.

Rhannu |