Mwy o Newyddion
Cynnig ‘Theatr Bryn Terfel’ ar gyfer Pontio
Gydag agoriad canolfan celfyddydau ac arloesi Pontio yn hydref 2014, bydd y Brifysgol yn dewis enwau ar gyfer rhannau o’r adeilad. Cyfrifoldeb Cyngor y Brifysgol fydd gwneud y penderfyniad terfynol.
Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes: “Er nad oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud eto, mae Cyngor y Brifysgol yn cynnig enwi’r theatr yn ‘Theatr Bryn Terfel’. Mae’r seren opera o Wynedd, sydd yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Bangor, yn enw mawr rhyngwladol yn y celfyddydau, ac mae eisoes wedi lleisio ei gefnogaeth i Pontio. Mae wedi datgan ei fod yn falch iawn o’r cynnig.”
O fewn adeilad Pontio bydd y theatr aml bwrpas, ganolig ei maint yn cynnal dramâu yn Gymraeg ac yn Saesneg, syrcas, comedi, dawns, cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth byd, gigs a llawer mwy.
Ychwanegodd yr Athro Hughes: “Mae’r Brifysgol yn cydnabod fod yna unigolion eraill sydd wedi chwarae rhan bwysig yn y celfyddydau ac ym myd arloesi yng Nghymru gan gynnwys Wilbert Lloyd Roberts, a bydd y Brifysgol yn ystyried sut y gall y cyfraniadau hynny gael eu cydnabod, yn ogystal â chyfraniad ein harianwyr a’n noddwyr.”