Mwy o Newyddion
Arogl glaswellt wrth iddo gael ei dorri yn allweddol i gynhyrchu llaeth iachach
Gallai cynnyrch llaeth gynnwys cyfradd uwch o frasterau iach omega-3 drwy’r flwyddyn, diolch i ddarganfyddiad sydd yn ymddnagos yng nghyfnodolyn y Gymdeithas Microbioleg Gymwysedig, y Journal of Applied Microbiology.
Mae gwyddonwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi darganfod bod y cemegau sy’n rhoi’r arogl gwyrdd nodweddiadol o laswellt sydd newydd ei dorri, yn lladd y bacteria sy’n trawsnewid brasterau omega-3 yn frasterau dirlawn yn stumog y fuwch (rwmen).
Mae IBERS yn derbyn cyllid strategol oddi wrth y BBSRC, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Bioleg (BBSRC).
Arweiniwyd y gwaith gan Dr Sharon Huws, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Gwyddor Anifeiliaid yn IBERS.
Dywedodd: “Rydym yn gwybod ers amser bod llaeth sy’n cael ei gynhyrchu yn yr haf yn cynnwys mwy o frasterau iach omega-3 o’i gymharu â llaeth sy’n cael ei gynhyrchu yn y gaeaf, ac rydym yn gwybod bod hyn efallai oherwydd effaith gwrthficrobaidd arogl gwyrdd glaswellt.
“Wrth gwrs nid yw’n bosib i wartheg fod allan trwy’r flwyddyn ond fe allwn, er enghraifft, ychwanegu un neu fwy o’r cemegau hyn at eu bwyd yn ystod y gaeaf.”
Ar gyfartaledd mae 4% o laeth cyflawn yn cynnwys gwahanol fathau o fraster.
Mae gormod o fraster dirlawn ym mwyd pobl yn gallu achosi problemau iechyd, gan gynnwys anhwylder cardio fasgwlar. Ond mae cyfran o’r brasterau mewn llaeth yn frasterau omega-3, sy’n cael eu hystyried yn frasterau da yn gyffredinol ac yn llesol i iechyd mewn nifer o ffyrdd.
Mae’r gymhareb o frasterau omega-3 i fraster dirlawn mewn llaeth yn amrywio drwy gydol y flwyddyn ac mae’r gwaith ymchwil hwn yn cynnig ateb i’r cwestiwn pam nad yw llaeth a gynhyrchwyd yn ystod y gaeaf, pan fo gwartheg yn aml i mewn dan do a ddim yn bwydo ar laswellt ffres, ddim mor iachus.
Ychwanegodd Dr Huws: “Wrth gwrs, nid llaeth yn unig fyddai’n fwy llesol wrth ychwanegu’r cemegau naturiol yma, ond hefyd yr amrywiaeth o gynnyrch a gynhyrchir gan ddefnyddio llaeth cyflawn - menyn, caws, iogwrt, ysgytlaeth, a mwy.”
Mae hyn i gyd yn newyddion da mewn byd lle mae disgwyl i boblogaeth y byd gyrraedd 9 biliwn erbyn 2050 a’r galw am fwyd maethlon, fforddiadwy, hygyrch, a diogel yn bwysicach nac erioed.
Mae’r gwaith ymchwil hwn yn parhau gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, a chysylltiadau gyda’r partneriaid diwydiannol Waitrose, DairyCrest, Wynnstay, Coombe Farm a Volac.