Mwy o Newyddion
'Nid Biodanwyddau yw’r ateb'
Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi datgan nad yw biodanwyddau yn helpu ymladd newid hinsawdd ond yn hytrach mae’n cael effaith andwyol ar gymunedau tlotaf y byd.
Maen nhw wedi cael eu hyrwyddo fel dull gwyrdd o gynhyrchu ynni. Fodd bynnag, mae nifer o astudiaethau diweddar yn dangos fod angen llawer iawn o dir i gynhyrchu cnydau biodanwydd a’u bod yn cynhyrchu llawer iawn o allyriadau CO2.
Ar Ddydd Mercher, pleidleisiodd y mwyafrif o Aelodau’r Senedd Ewropeaidd yn Strasbwrg o blaid cap o 6% ar y defnydd a wneir o fiodanwyddau sy’n seiliedig ar fwyd, er bod Jill Evans o blaid cap mwy llym.
Dywedodd Jill Evans: “Gall yr hyn a elwir yn fiodanwyddau cenhedlaeth gyntaf, gael effaith andwyol ar yr amgylchedd.
"Mae cymryd ardaloedd anferth o dir drosodd a ddylai gael eu neilltuo ar gyfer tyfu bwyd mewn cymunedau tlawd, er mwyn cynhyrchu biodanwydd i’w ddefnyddio yn ein ceir, yn hollol annerbyniol.
“Mae’r broses bresennol o dyfu biodanwyddau yn defnyddio llawer o wrtaith ac mae cludo’r cnwd i’r ffatri a’i brosesu mewn i fiodiesel yn niweidio’r amgylchedd.
"Erbyn hyn, mae nifer o astudiaethau’n dangos ei fod yn niweidio cynefinoedd bywyd gwyllt, yn cyfrannu tuag at ddatgoedwigo mewn gwledydd fel Indonesia ac yn cael effaith andwyol ar gymunedau gwledig yn y byd datblygol.
"Wrth i dir brinhau’n gynyddol o ganlyniad i’r galw am gnydau biodanwydd, mae’n achosi cynnydd mewn prisiau bwyd sy’n taro’r rhai mwyaf tlawd waethaf.
"Dylwn anelu at stopio’r mathau yma o fiodanwyddau yn llwyr a dyna pam wnes i gefnogi’r cap gwreiddiol o 5% a argymhellwyd gan Gomisiwn Ewrop. Er bod hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir, teimlaf fod cap o 6% yn rhy uchel."
Parhaodd Jill Evans: “Mae yna botensial ar gyfer datblygu’r hyn a elwir yn ail genhedlaeth o fiodanwyddau, y gellir eu gwneud o ffynonellau nad sy’n fwyd, fel gwymon a gwastraff.
"Gallai’r math yma o fiodanwydd helpu i leihau faint o wastraff sydd yn cael ei ddanfon at safleoedd tirlenwi. Mae nifer o gwmnïau mawrion ar draws y byd yn datblygu purfeydd biodanwydd datblygedig. Rhaid i ni chwilota pob ffordd o gynhyrchu tanwydd amgen ond dylem wrthod y dulliau hynny nad sy’n gynaliadwy ac sydd mewn gwirionedd yn creu mwy o broblemau ar gyfer cymunedau tlawd sydd yn dibynnu ar ffermio lleol."