Mwy o Newyddion
£240,800 i atgyweirio adeiladau hanesyddol gorau Cymru
Mae John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, wedi cyhoeddi y bydd rhai o adeiladau hanesyddol gorau Cymru yn elwa ar gyllid gwerth £240,800.
Bydd naw prosiect ar draws y wlad yn cael grantiau gan Lywodraeth Cymru - a fydd yn amrywio o £7,000 i £40,000 - i wneud gwaith atgyweirio ac adfer hanfodol.
Dywedodd John Griffiths: “Bydd y grantiau hyn yn sicrhau bod rhai o'n hadeiladau hanesyddol pwysicaf yn cael eu hadfer a'u cynnal er mwyn i genedlaethau'r dyfodol allu eu mwynhau.
"Bydd y cyllid cyfalaf hwn yn golygu bod modd defnyddio sgiliau traddodiadol i ddiogelu dyfodol adeiladau sydd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru a chyfrannu'n sylweddol at adfywio cymunedau.
“Mae prosiectau o'r fath yn cadw ein gorffennol yn fyw, yn rhoi hwb i'r economi leol yn y dyfodol ac yn hollbwysig i werthu Cymru a'i diwylliant i'r byd."
Dyma restr o'r adeiladau hanesyddol a fydd yn elwa ar y cyllid a fydd yn cael ei ddyrannu drwy Cadw - gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru:
Eglwys Saron, Tredegar, Blaenau Gwent
Mae Capel Saron yn adeilad rhestredig Gradd II trawiadol sy'n cael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd gan y gymuned, ee ceir banc bwyd yno a chaiff ei defnyddio fel canolfan Cymunedau yn Gyntaf hefyd. Bydd grant gwerth £25,000 yn helpu i dynnu'r rendrad oddi ar y waliau allanol ac ail-rendro.
Yr Hen Orsaf Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr
Mae'r Hen Orsaf Heddlu yn adeilad rhestredig Gradd II yng nghanol Porthcawl sy'n cael ei ddefnyddio fel Canolfan Groeso ac amgueddfa. Mae'r adeilad mewn cyflwr bregus yn sgil trafferthion gyda strwythur pen blaen yr adeilad. Bydd grant gwerth £19,800 yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â’r symudiadau yn y strwythur.
Plasty Llancaiach Fawr, Treharris, Caerffili
Mae Plasty Llancaiach Fawr yn adeilad rhestredig Gradd I sy'n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae ar agor i'r cyhoedd a hefyd yn cael ei defnyddio at ddibenion addysgol. Mae'r prosiect cyffredinol wedi cael cyllid o bron i £1miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Bydd grant gwerth £30,000 gan Cadw yn gwneud iawn am rywfaint o’r prinder cyllid, ac yn cael ei ddefnyddio i wneud gwaith atgyweirio ar y to, y simneiau, y waliau a'r nenfydau.
The Bell House, Gwynedd
Hen swyddfa Chwarel Lechi Aberllefenni gynt yw'r Bell House, ac mae'n adeilad bach iawn ac unigryw sydd wedi'i lleoli mewn man amlwg ar ochr y ffordd. Mae un o'r ychydig swyddfeydd chwarel sydd wedi goroesi, ond mae bellach mewn perygl. Bydd grant o £7,000 yn cyfrannu at gost gwaith atgyweirio ar y to, y simneiau, y waliau a'r nenfydau.
Yr Hen Gapel, Gwynedd
Mae'r Hen Gapel yn gapel rhestredig Gradd II. Mae'n dal i gael ei ddefnyddio fel man addoli ac mae ganddo gysylltiadau cryf â Michael D Jones, cyd-sylfaenydd y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Nid yw'r adeilad wedi newid dim y tu allan, ac mae'r hyn sydd y tu fewn yn parhau'n gyflawn. Fodd bynnag, mae bellach mewn perygl ac mae angen gwneud gwaith atgyweirio. Bydd grant gwerth £30,000 yn cyfrannu at gost y gwaith hwn.
Capel Aberfan, Aberfan
Mae Capel Aberafan bellach yn rhan o'r gofeb ar gyfer trychineb Aberfan. Mae'r capel ar gau ar hyn o bryd am resymau iechyd a diogelwch, ond caiff y festri ei defnyddio o bryd i'w gilydd. Pan fydd wedi'i atgyweirio, bydd yn cael ei ddefnyddio fel man addoli ac adnodd cymunedol. Bydd grant o £39,000 yn helpu i dalu am waith atgyweirio yn sgil pydredd sych.
Ysgubor Croft Farm, Sir Fynwy
Mae Ysgubor Croft Farm yn adeilad rhestredig Gradd II* sy'n enghraifft bwysig o strwythur ffrâm goed. Mae'n enghraifft brin o'r math hwn o waith adeiladu ond mae'n fath sy'n fregus iawn ac mae bellach mewn cyflwr gwan. Bwriedir ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer hyfforddiant mewn sgiliau gwinwyddaeth (tyfu grawnwin, ar gyfer cynhyrchu gwin yn bennaf) a hanes gwinwydd - sy'n gynllun creadigol ar gyfer ailddefnyddio'r adeilad. Bydd grant gwerth £20,000 yn cyfrannu at gost gwaith atgyweirio ar y to.
Eglwys y Santes Fair, Trelystan, y Trallwng
Mae Eglwys y Santes Fair yn eglwys restredig gradd II* a dyma'r unig eglwys ffrâm goed sydd wedi goroesi yn Sir Fynwy. Er ei bod mewn lleoliad ynysig, caiff ei defnyddio'n rheolaidd fel man addoli. Mae angen gwneud gwaith atgyweirio ar frys ar y ffrâm goed, a chafwyd £100,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Bydd grant gwerth £40,000 gan Cadw yn helpu i wneud iawn am y diffyg cyllid sydd ei angen ar gyfer y prosiect hwn.
Cysylog, Maerdy, Conwy
Mae Cysylog yn ffermdy rhestredig Gradd II* sy'n deillio o'r ail ganrif ar bymtheg. Mae'n ddigyffwrdd ond mewn perygl mawr. Bydd grant gwerth £30,000 yn cyfrannu at gostau'r gwaith atgyweirio helaeth sydd ei angen i adfer yr adeilad a bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu drwy gynllun grant yr awdurdod lleol ar gyfer adeiladau sydd mewn perygl.