Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Medi 2013

Cynigion am ysgol newydd yn Lôn-las

Mae cynigion i adeiladu ysgol gynradd gwerth miliynau o bunnoedd ar safle Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn-las wedi cael eu dadorchuddio gan Gyngor Abertawe.

Dymuna'r awdurdod lleol newid adeiladau presennol Lôn-las sydd wedi dirywio am ysgol bwrpasol newydd a fydd o les i ddysgu ac addysgu cenedlaethau o ddisgyblion i ddod.

Mae'r cyngor bellach yn ceisio barn rhieni, plant a'r gymuned cyn datblygu'r cynlluniau ymhellach.

Byddai'r prosiect yn cael ei gydariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.

Meddai'r Cyng. Will Evans, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddysgu a Sgiliau: "Mae creu ysgol newydd yn Lôn-las yn flaenoriaeth uchel i'r cyngor.

"Mae'r adeiladau presennol yn hen ac mewn cyflwr gwael ac nid ydynt yn addas ar gyfer ystod oedran y disgyblion sy'n cael eu haddysgu yno. O ganlyniad, maent hefyd yn gynyddol drud i'w cynnal a'u cadw.

"Mewn gwrthgyferbyniad, byddai buddsoddiad sylweddol yn yr ysgol newydd arfaethedig yn darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu o safon uchel sy'n angenrheidiol i ddiwallu disgwyliadau disgyblion a staff mewn ysgol yn yr 21fed ganrif.

"Trwy'i hadeiladu ar y safle presennol, bydd yn parhau i allu defnyddio'r cyfleusterau chwaraeon ardderchog a'r warchodfa natur sydd eisoes yn bodoli y tu cefn i'r ysgol."

Ychwanegodd: "Ac yn ogystal â rhoi ysgol newydd i'r gymuned, byddwn yn ceisio sicrhau bod y contractwyr adeiladu'n defnyddio cyflenwyr lleol, cyflogi gweithwyr lleol a chynnig profiad gwaith i bobl ifanc ddi-waith."

Bydd adborth yn helpu i lunio'r cynlluniau cyn ceisio unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer cynllun yn Lôn-las.

Mae Cyngor Abertawe'n dosbarthu taflenni yr wythnos hon gyda manylion o'r cynigion cychwynnol ac i gael adborth. Mae nosweithiau gwybodaeth cymunedol hefyd yn yr arfaeth i gyflwyno'r cynigion a'r cysyniadau dylunio cynnar i bobl leol.

I gael mwy o wybodaeth a chyflwyno eich barn, ewch i 
www.abertawe.gov.uk/newygglonlasbuild
Mae blychau casglu ar gyfer cyflwyno sylwadau hefyd ar gael yn YGG Lôn-las a Llyfrgell Llansamlet.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 30 Medi, 2013.

Cam diweddaraf rhaglen Addysg o Safon (AoS) 2020 barhaus Cyngor Abertawe yw'r cynlluniau hyn, sef rhaglen sy'n parhau i godi safonau a gwella amgylcheddau addysgol ar draws yr ardal. 
Mae'r rhaglen honno eisoes wedi gweddnewid ysgolion megis Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed ac mae'n gyfrifol am y gwaith presennol gwerth miliynau o bunnoedd i weddnewid Ysgol Gyfun Treforys.

Mae'r awdurdod lleol wedi llwyddo yn ei gais am £4.5 miliwn o gyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru i gychwyn prosiectau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Burlais ac Ysgol Gynradd Tregwyr yn ogystal â'r gwaith adnewyddu arfaethedig yn Lôn-las. 

Rhannu |