Mwy o Newyddion
Galwr diwahoddiad yn cynnig trethi busnes llai am arian
Anogir busnesau yn Abertawe i fod yn ofalus ar ôl i rai cwmnïau lleol yn y ddinas gael eu targedu gan alwr diwahoddiad.
Mae Safonau Masnach Cyngor Abertawe wedi rhyddhau rhybudd ar draws y ddinas ar ôl derbyn cwynion bod rhai busnesau lleol wedi cael galwad ffôn gan y galwr diwahoddiad a oedd wedi rhoi'r cyfle iddynt leihau eu trethi busnes.
Meddai David Picken, Swyddog Safonau Masnach y cyngor: "Mae'r cwynion a wnaed i'r cyngor yn disgrifio cynigion i leihau trethi busnes a gofyn am flaendal o £1,000 am wneud hyn."
Mae'r cyngor wedi ychwanegu mai Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw'r corff sy'n pennu neu'n adolygu trethi busnes.
Meddai Mr Picken: "Ni chodir tâl am adolygu trethi busnes a gellir gwneud hynny ar-lein neu dros y ffôn.
"Fel arfer, rydym yn cynghori unrhyw un sy'n derbyn galwadau diwahoddiad lle mae'r galwr yn gofyn am bethau fel blaendal neu fanylion banc i fod yn ofalus.
"Rydym yn awyddus i wybod mwy am y cwmni fel y gallwn ymchwilio i'r cwynion. Dylai unrhyw fusnes y mae'r cwmni hwn wedi cysylltu ag ef yngl?n â gostyngiad ac sydd wedi talu blaendal gysylltu â'n swyddfeydd."
Gall busnesau lleol gysylltu â Safonau Masnach Cyngor Abertawe trwy ffonio 01792 635600.