Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Awst 2013

Croesawu adroddiad ynglŷn â dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, wedi croesawu adroddiad ynglŷn â dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ddoe gan Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Comisiynydd, a gyflwynodd dystiolaeth i Ymchwiliad y Pwyllgor, yn rhannu’r farn y dylai fod gan Lywodraeth Cymru fwy o bwerau dros gydraddoldeb a hawliau dynol er mwyn i Gymru allu parhau i ddatblygu ei hagwedd nodedig yn y meysydd hynny.

Dywed Sarah Rochira: “Mae fy ngwaith fel Comisiynydd wedi’i seilio ar agwedd sy’n canolbwyntio ar hawliau dynol ac, o’r herwydd, rwy’n croesawu adroddiad y Pwyllgor yn frwd, a’i argymhellion. Mae’n golygu na all ein llwyddiannau yng Nghymru gael eu tanseilio gan unrhyw newidiadau posib mewn deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol dros y ffin.

“Mae dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol yn aruthrol bwysig i mi fel Comisiynydd Pobl Hŷn, oherwydd bod pobl hŷn yng Nghymru yn aml yn gorfod brwydro er mwyn i’w hawliau sylfaenol gael eu cydnabod a’u cynnal.

“Mae hawliau dynol yn hynod o bwysig i bob un ohonom, ac mae iddynt sawl cymhwysiad ymarferol. Mae’n hollbwysig bod hyn yn cael ei gydnabod yn helaeth ac nad yw hawliau dynol yn cael eu gweld fel rhywbeth esoterig neu amherthnasol ac nad yw eu pwysigrwydd yn cael eu cymylu gan adroddiadau cyfeiliornus gan gyffrogarwyr yn y wasg - rhywbeth sy’n digwydd yn rhy aml o’r hanner.”

Mae’r Comisiynydd eisoes wedi croesawu’n gyhoeddus ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithredu Datganiad Hawliau Pobl Hŷn Cymru. Bydd y Datganiad, y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig ac a gefnogwyd gan bob plaid wleidyddol yn y Senedd, yn rhoi fframwaith a safonau clir y gellir eu defnyddio gan bobl hŷn eu hunain i sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau cyflawn ac annibynnol.

Ychwanega Sarah Rochira: “Mae datblygu Datganiad Hawliau Pobl Hŷn Cymru yn gam pwysig ymlaen yng Nghymru; mae’n adeiladu ar lawer o waith ardderchog sydd eisoes wedi’u wneud i ymgorffori egwyddorion hawliau dynol i fframwaith deddfwriaethol Cymru, ond mae’n hanfodol bwysig bod hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddeddfwriaeth yng Nghymru gael ei theilwra yn ôl gwerthoedd, cyd-destun polisi a demograffeg Cymru, fel y cynigir yn adroddiad y Pwyllgor.

“Mae hawliau dynol yn dangos i ni, yn enwedig mewn cyfnod o galedi, sut i wneud pethau’n iawn, sut i gyflenwi gwasanaeth cyhoeddus da, sut i sicrhau bod pobl yn cael eu trin â dyngarwch a gwedduster sylfaenol. Maent yn aruthrol o bwysig i bob un ohonom, a dylid nid yn unig eu gwarchod, ond eu cryfhau, a hynny ym mhob ffordd a allwn.”

Rhannu |