Mwy o Newyddion
-
Cymru’n dweud 'Croeso': Oxfam yn galw ar y cyhoedd i ysgrifennu llythyr o groeso i ffoaduriaid
20 Mehefin 2016I ddathlu Wythnos Ffoaduriaid sy'n dechrau heddiw, mae Oxfam Cymru yn lansio menter newydd ar draws Cymru gyfan, yn galw ar y cyhoedd i ysgrifennu llythyr o croeso i deuluoedd o ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd Cymru. Darllen Mwy -
AS Plaid Cymru yn herio penderfyniad HSBC i gau tair cangen yn Nwyfor Meirionnyudd
20 Mehefin 2016Mae cynllun gan HSBC i gau tair cangen o’r banc yng Ngwynedd wedi cael ei feirniadu’n hallt gan Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts. Darllen Mwy -
Codi ymwybyddiaeth myeloma - yr ail ganser mwyaf cyffredin o'r gwaed
17 Mehefin 2016Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu i godi ymwybyddiaeth myeloma fel rhan o'r wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol (21-28 o Fehefin). Darllen Mwy -
Bronglais ymysg pedwar ysbyty sy'n treialu oriau ymweld agored
17 Mehefin 2016Mae Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn treialu oriau ymweld agored ar wardiau Meurig. Darllen Mwy -
Darganfod y 'Greal Sanctaidd' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
17 Mehefin 2016Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth wedi cyhoeddi bydd Cwpan Nanteos yn cael ei harddangos yn gyhoeddus yn y Llyfrgell o ddydd Sadwrn ymlaen. Darllen Mwy -
Ffigyrau plannu coed siomedig iawn ar gyfer Cymru
17 Mehefin 2016Mae Coed Cadw Woodland Trust yn poeni’n arw am y lefel isel o blannu coetir newydd yng Nghymru, sy’n cael ei gadarnhau gan y ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd ddoe. Darllen Mwy -
S4C ar iPlayer am bum mlynedd arall
17 Mehefin 2016Drama ddirdynnol, dogfen, chwaraeon, rhaglenni i blant a straeon o bob rhan o Gymru; mi fydd cynnwys gwreiddiol Cymraeg yn parhau ar sianel S4C ar BBC iPlayer yn dilyn llwyddiant cyflwyno'r gwasanaeth yn 2014. Darllen Mwy -
Aelod Cynulliad yn ennill cefnogaeth trawsbleidiol dros Gymru i aros yn yr UE
17 Mehefin 2016Yn ystod dadl ar yr Undeb Ewropeaidd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher, pwysleisiodd Dafydd Elis-Thomas, Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd, ei gred ei fod yn well i Gymru aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Darllen Mwy -
Eurig Wyn, gwleidydd amlwg Plaid Cymru yn ildio’r awenau fel Cynghorydd Waunfawr
17 Mehefin 2016Mae’r Cynghorydd Eurig Wyn wedi penderfynu ildio’r awenau fel cynrychiolydd Plaid Cymru Waunfawr ar Gyngor Gwynedd. Darllen Mwy -
Pleidlais i adael yr UE yn siŵr o symud gwleidyddiaeth i'e dde, rhybuddia arweinydd Plaid Cymru
16 Mehefin 2016Mae Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru wedi rhybuddio heddiw y byddai buddugoliaeth i'r ymgyrch i Adael yn refferendwm Ewrop yn siwr o symud gwleidyddiaeth i'r dde yn y Deyrnas Gyfunol. Darllen Mwy -
Gwyrdd yw’r du newydd
16 Mehefin 2016Mae pobl yng Nghymru yn cael eu hannog i newid o ddu i wyrdd wrth i waith ymchwil ynghylch yr hyn sy’n cael ei roi mewn biniau du weld bod chwarter ohono yn fwyd a chwarter arall yn ddeunydd y gellid ei ailgylchu. Darllen Mwy -
Dyfodol i'r Iaith - pleidlais i adael y gymuned Ewropeaidd yn destun pryder mewn perthynas â'r Gymraeg
15 Mehefin 2016MAE Dyfodol I’r iaith yn pryderu am yr effaith y gallasai pleidlais dros adael y Gymuned Ewropeaidd ei chael ar y Gymraeg. Darllen Mwy -
Yr argyfwng ffoaduriaid yn arwain at yr ymateb dyngarol mwyaf yn hanes Oxfam
15 Mehefin 2016Mae’r argyfwng ffoaduriaid byd-eang presennol wedi arwain at yr ymateb dyngarol mwyaf yn hanes Oxfam, meddai’r asiantaeth ryngwladol heddiw wrth lansio ymgyrch newydd yn galw ar lywodraethau i wneud mwy i helpu teuluoedd sydd wedi gorfod ffoi o’i cartefi. Darllen Mwy -
Plaid Cymru - cartrefi incwm-isel ar eu colled fwy na neb yn achos pleidlais i adael yr UE
15 Mehefin 2016Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi rhybuddio y bydd cartrefi incwm-isel ar eu colled yn fwy na neb yn sgil y sioc economaidd pe bai’r DG yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Darllen Mwy -
Cyflwyno coron a chadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau
15 Mehefin 2016Cyflwynwyd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yn Nhrefynwy neithiwr. Darllen Mwy -
Apêl 'Ategolion at y Galon' Merched y Wawr yn codi dros £30,000
15 Mehefin 2016Mae Merched y Wawr wedi bod yn brysur ers Medi 2014 yn casglu ategolion, ac yna yn eu gwerthu ym mhob pegwn o Gymru Darllen Mwy -
Bywydau wedi’u hachub yn ystod chwe mis cyntaf y system rhoi organau newydd
14 Mehefin 2016Bydd Vaughan Gething yn dweud wrth Aelodau’r Cynulliad heddiw bod system flaengar Cymru ar gyfer rhoi organau wedi achub dwsinau o fywydau yn ystod y chwe mis cyntaf ers dod i rym. Darllen Mwy -
Cam arall ymlaen tuag at sefydlu Canolfan Ragoriaeth Filfeddygol yn Aberystwyth
14 Mehefin 2016Mae cynlluniau i sefydlu rhaglen benodol i hyfforddi milfeddygon y bydd Prifysgol Aberystwyth yn rhan ohoni gam yn nes, yn dilyn cyhoeddiad gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ddoe. Darllen Mwy -
Bwrdd Iechyd yn arwain y ffordd er mwyn rhwystro ysmygu mewn ysbytai
14 Mehefin 2016BWRDD Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw’r cyntaf yng Nghymru i gyflwyno system sain gyhoeddus i annog smygwyr i beidio â smygu y tu allan i’w hysbytai. Darllen Mwy -
Honiad yr Ymgyrch i Adael y daw arian i Gymru yn 'ffantasi llwyr'
14 Mehefin 2016Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru heddiw wedi beirniadu honiad yr ymgyrch i Adael y bydd Cymru'n derbyn iawndal am unrhyw golled cronfeydd strwythurol yr UE yn achos pleidlais i Adael, gan ei alw'n "ffantasi llwyr." Darllen Mwy