Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Mehefin 2016

Ffigyrau plannu coed siomedig iawn ar gyfer Cymru

Mae Coed Cadw Woodland Trust yn poeni’n arw am y lefel isel o blannu coetir newydd yng Nghymru, sy’n cael ei gadarnhau gan y ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd ddoe.

Mae hyn er gwaethaf y dystiolaeth gynyddol am bwysigrwydd coed a choedwigoedd ar gyfer bywyd gwyllt, yr economi ac fel ffordd hanfodol o greu mannau gwyrdd ar gyfer iechyd a lles cymunedau.

Mae'r ffigurau yn dangos na phlannwyd ond 100 ha o goetir newydd yng Nghymru y llynedd, yr un ffigwr a’r flwyddyn cynt. Mae hyn er gwaethaf dyhead Llywodraeth Cymru i greu 100,000 ha o goetir newydd rhwng nawr a 2030.

Dywed Jerry Langford, Cyfarwyddwr Coed Cadw yng Nghymru: "Mae yna fwy a mwy o dystiolaeth am bwysigrwydd coed a choetiroedd i wneud ffermydd yn wytnach i effeithiau newid yr hinsawdd, i fynd i'r afael â llygredd aer, gwella ansawdd dŵr a chynnig cyfle i reoli llifogydd mewn ffordd naturiol.

"Fe allan nhw gynhyrchu pren hefyd, wrth gwrs, a chynnig cynefinoedd gwerthfawr i fyd natur.

"Mae’r lefel isel o blannu yn golygu bod Cymru’n colli'r cyfle i elwa fel hyn.

"Dyna pam rydym yn meddwl y gallai uchelgais Llywodraeth Cymru i greu 100,000 ha o goetir newydd rhwng nawr a 2030 fynd yn bell tuag at gyflawni'r ymrwymiad i reoli tir mewn ffordd gynaliadwy sydd bellach wedi'i ymgorffori yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru)."

Dim ond 14% o dirwedd Cymru sydd o dan orchudd coed ar hyn o bryd, sy’n golygu fod Cymru'n un o wledydd lleiaf coediog Ewrop.

Mae Coed Cadw yn credu bod y ffigurau plannu gwael yn ganlyniad, i raddau, i ansicrwydd ac oedi wrth gyflwyno'r grantiau Creu Coetiroedd Glastir newydd, a'r ffordd y mae'r Llywodraeth wedi newid rheolau cymhorthdal ??fferm y llynedd i gosbi ffermwyr am gadw coed ar eu tir.

Ychwanegodd Jerry Langford: "Rydym yn cefnogi deheuad Llywodraeth Cymru i sicrhau fod Cymru yn elwa mwy ar goed goetiroedd, ond ydi’r awydd yma’n mynd i gael ei gyflawni, mae angen ymrwymiad cyson ar draws y Llywodraeth."

Mae yna rywfaint o newyddion da, fodd bynnag. Fe gyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog newydd dros yr Amgylchedd dydd Llun y bydd cyfle i wneud cais am Grantiau Bychain tuag at fesurau a fydd yn helpu cloi carbon, fel plannu coetiroedd bychain, plannu coed a chreu ac adfer gwrychoedd, a hynny rhwng 27 Mehefin a 29 Gorffennaf. Fe fydd y cynllun yn cynnig grantiau o hyd at £ 5,000 i bob cwsmer ac fe fydd hyd at £ 1.5 miliwn ar gael yn gyfan gwbl.

Un ffermwr sydd wedi cydnabod gwerth coed ar ei fferm ac sy'n anelu at blannu mwy yw Arwel Davies  o Fferm Braich y Waun yn nalgylch Afon Cain Uchaf ger Llanfyllin.

Mae'n un o 10 ffermwr yn y cwm a dderbyniodd gyllid drwy Gynllun Cronfa Natur Dŵr a Phridd Afonydd Cymru a Choed Cymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ac yn dilyn hynny oddi wrth Coed Cadw, i adfer gwrychoedd fel cysgod ac ar gyfer rheoli dŵr ffo.

Meddai: "Pan brynodd fy nhaid y fferm, fe aeth o a’n nhad i sefyll wrth ochr rhan o’r system o fanciau a gwrychoedd a ddywedodd wrtho fo 'Ddylen ni werthfawrogi'r holl waith caled a wnaed i greu’r banciau a gwrychoedd hyn. Maen nhw’n rhoi cymaint o gysgod i’n stoc ni.'

"Mewn ffordd roedden nhw’n gwybod mwy am ffermio bryd hynny na ninnau heddiw."

Os ydych yn ystyried creu coetir newydd, gwrychoedd, lleiniau cysgodol ac ati, ac yn dymuno cael cyngor a gwybodaeth am grantiau Llywodraeth Cymru ar gael ar gyfer plannu coed neu gefnogaeth uniongyrchol sydd ar gael drwy gynlluniau Coed Cadw ei hun ar gyfer creu coetiroedd a gwrychoedd, gan gynnwys pecynnau coed fferm wedi eu sybsideiddio, yna cysylltwch â'u tîm creu coetir ar 0330333 5303 neu plant@woodlandtrust.org.uk

Rhannu |