Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mehefin 2016

Cyflwyno coron a chadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau

Cyflwynwyd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yn Nhrefynwy neithiwr.

Rhoddir y Goron eleni gan Gymreigyddion Y Fenni, a chomisiynwyd yr artist lleol, Deborah Edwards i ymgymryd â’r dasg o gynllunio a chreu y Goron.  Cyflwynir y wobr ariannol gan Alun Griffiths (Contractors) Cyf.

Cyflwynir y Goron am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, hyd at 250 o linellau ar y pwnc ‘Llwybrau’.  Y beirniaid yw Siân Northey, Menna Elfyn, ac Einir Jones.

Ardal Sir Fynwy sydd wedi ysbrydoli’r cynllun ar gyfer y Goron eleni, gyda’r artist, Deborah Edwards yn awyddus i ddathlu’r tirlun hardd, y tirnodau pensaernïol hynod a threftadaeth ddiwylliannol y sir.

Mae’r Goron yn cynnwys nifer o ffenestri, gyda’r amlinelliad wedi’i gymryd o un o ffenestri Abaty Tyndyrn.  Ceir golygfa wahanol o’r sir ym mhob ffenest, ac mae’r rhain yn cynnwys cestyll Y Fenni, Rhaglan, Cil-y-Coed a Chas-gwent, yn ogystal â neuadd farchnad enwog Y Fenni, Pont Hafren a melin wynt Llancaio. 

Mae Arglwyddes Llanofer, un a fu mor weithgar dros yr iaith a’n diwylliant, wedi’i chynrychioli yn y Goron hefyd, ynghyd â bryniau a mynyddoedd Ysgyryd Fawr, Blorens a Phen-y-fâl, a nifer o elfennau eraill sy’n rhan bwysig o fywyd a hanes bro’r Eisteddfod. 

Mae gan bob ‘ffenest’ ddwy haen, y gyntaf yn ddalen solet, gyda’r manylion wedi’u rhwyllo â llaw, gan ddefnyddio llif rhwyllo.  Mae’r ail haen wedi’i chreu o linluniau wedi’u ffurfio mewn darn sgwâr o weiren arian.  Gwehyddwyd y gwaith tecstilau gan wehyddwyr llaw Sioni Rhys yn eu stiwdio ym Mhandy, gan ddefnyddio gwehyddiad lleol traddodiadol.

Yn ogystal â’r Goron, bydd y Gadair hefyd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith nos Fawrth.  Eleni cyflwynir y Gadair am ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau dan y teitl ‘Ffiniau’.  Y beirniaid yw Tudur Dylan Jones, Cathryn Charnell-White a Meirion MacIntyre Huws.

Eleni, mae’n hanner canrif ers i Dic Jones ennill y Gadair yn Eisteddfod Aberafan am ei awdl ‘Y Cynhaeaf’, ac i nodi’r achlysur, cyflwynir y Gadair eleni gan ei deulu er cof am y bardd.  Rhoddir y wobr ariannol er cof am Islwyn Jones, Gwenfô, Caerdydd.

Un a fu’n ymweld yn aml â’r Hendre, cartref Dic Jones, oedd Emyr Garnon James, a’r crefftwr hwn, sydd hefyd yn bennaeth Adran Dylunio a Thechnoleg Ysgol Uwchradd Aberteifi, a ddewiswyd gan y teulu i gynllunio a chreu Cadair Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni.

Meddai Emyr, “Roeddwn i’n arfer galw yn Yr Hendre a gweld Cadair Aberafan yn y gornel, a feddylies i erioed y byddwn i’n cael fy newis i greu cadair ar gyfer yr Eisteddfod, a honno er cof am Dic ei hun.  Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn bleser creu’r Gadair hon, a diolch i’r teulu am y cyfle.

“Wrth gychwyn ar y gwaith ac wrth feddwl am Dic a siarad gyda’r teulu, roedd un peth yn bendant - cadair ddi-ffws fyddai Cadair Eisteddfod 2016 - a’r pren fyddai’r prif atyniad.  Dychwelais i’r Hendre i weld Cadair 1966.  Roedd hi’n gadair gyfoes iawn ar y pryd a hithau hefyd yn ddi-ffws, gyda’r pren yn drawiadol a hardd.  Dewisais weithio gyda phren Ffrengig du, a chreu cynllun syml gyda llinellau syth, cynllun y byddai Dic ei hun wedi’i werthfawrogi, gobeithio.

“Mae gweithio gyda’r pren wedi bod yn brofiad arbennig, ac rwyf wedi dysgu sut i gastio efydd i mewn i’r pren er mwyn creu’r ysgrifen a’r Nod Cyfrin, profiad newydd i mi, ac efallai y bydd ambell ddisgybl yn defnyddio’r broses hon mewn prosiectau dros y blynyddoedd nesaf.

Wrth dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Lleol, Frank Olding, “Mae’n bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran y Brifwyl.  Mae’r seremonïau’n ddwy o uchafbwyntiau’r wythnos, ac rydym yn mawr obeithio y bydd beirdd haeddiannol yn derbyn y Goron a’r Gadair yma yn Sir Fynwy ymhen rhai wythnosau.  Diolch i Deborah Edwards am ei gwaith cywrain ar y Goron, i Gymreigyddion Y Fenni am ei chyflwyno ac i Alun Griffiths (Contractors) Cyf am y wobr ariannol. 

“Yr un yw’r diolch i Emyr Garnon James am ei waith ar y Gadair, ac i deulu Dic Jones am ei chyflwyno, ac i deulu Islwyn Jones am y wobr ariannol.  Diolch o waelod calon ar ran y Pwyllgor, yr Eisteddfod, a Sir Fynwy i gyd.”

Cynhelir seremoni’r Coroni ddydd Llun 1 Awst am 16.30, a seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener 5 Awst am 16.30.  Dylai unrhyw un sy’n mynychu’r seremonïau sicrhau bod ganddynt docyn sedd gadw gan y bydd y Pafiliwn yn orlawn ar gyfer y ddwy seremoni  Gellir prynu tocynnau ymlaen llawn drwy fynd i’r wefan, www.eisteddfod.cymru, neu drwy ffonio’r Llinell Docynnau, 0845 4090 800.  Gellir hefyd brynu tocynnau wrth gyrraedd y Maes ar y diwrnod.

Ewch ar-lein am wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau a gynhelir ar Ddolydd y Castell, Y Fenni o 29 Gorffennaf – 6 Awst.

Lluniau: Y goron a chadair 2016 gyda chadair 1966

Rhannu |