Mwy o Newyddion
Pleidlais i adael yr UE yn siŵr o symud gwleidyddiaeth i'e dde, rhybuddia arweinydd Plaid Cymru
Mae Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru wedi rhybuddio heddiw y byddai buddugoliaeth i'r ymgyrch i Adael yn refferendwm Ewrop yn siwr o symud gwleidyddiaeth i'r dde yn y Deyrnas Gyfunol.
Wrth ysgrifennu ar gyfer y Times heddiw, dywedodd Leanne Wood: "Mae'r cwestiwn dros ddyfodol safle'r DG yn y byd wedi dirywio i'r hyn sy'n ymddangos fel cyfarfod anhrefnus o Gymdeithas Ddadlau Eton, gydag elit Llundain yn cyfnewid cyhuddiadau yn dragwyddol.
"Ar yr un pryd, mae lleisiau'r unigolion sydd a'r mwyaf i'w golli - merched, pobl ifanc, y difreintiedig - wedi eu tewi wrth i'r blaid Geidwadol orfodi ei hargyfwng hunaniaeth ar dudalen flaen pobl papur newydd.
"Mae'r diffyg gwagle ar gyfer grymoedd blaengar ymysg rhengoedd amlycaf y ddadl hon yn dorcalonnus.
"Pan ymunais â fy nghyfeillion Caroline Lucas o'r Blaid Werdd a'r Prif Weinidog Nicola Sturgeon o'r SNP rai wythnosau nol i amlinellu'r rhesymau dros Aros, nododd sawl ungiolyn sut y rhoddodd ein dadleuon blaengar bositifrwydd newydd i'r ddadl.
"Yr ysbryd hwn o optimistiaeth ac undod mewn cymuned o genhedloedd sy'n diogelu hawliau merched a gweithwyr ac sy'n caniatau pobl i deithio'n rhydd i ddysgu a mentro sy'n rhaid i ni ei ddathlu drwy godi'n lleisiau dros yr wythnos olaf dyngedfennol hon."
Wrth siarad cyn ymuno ag Alex Salmond AS yng Nghaerdydd i ymgyrchu dros bleidlais i Aros, ychwanegodd Leanne Wood: "Rwy'n falch iawn o groesawu Alex Salmond i Gaerdydd heddiw i ymgyrchu dros gadw'r DG yn yr Undeb Ewropeaidd.
"Mae Plaid Cymru a'n chwaer blaid yr SNP wedi bod yn glir yn ein beirniadaeth o'r ffordd mae'r ddadl wedi cael ei dominyddu gan ryfel cartref y Ceidwadwyr.
"Mae yna achos cadarnhaol cryf yn bodoli o blaid yr UE ac mae'n rhaid clywed yr achos hwn yn gadarn ac yn glir yn ystod yr wythnos olaf hon os ydym am atal gwleidyddiaeth y DG rhag symud i'r dde.
"Byddai pleidlais i Adael yn golygu fod Cymru'n gwbl agored i bolisiau rhai Ceidwadwyr yn San Steffan sydd bron yn gwneud i Cameron ac Osborne ymddangos yn rhesymol.
"Dim ond drwy gefnogi 'Aros' ddydd Iau nesaf y gallwn roi'r cyfle gorau posib i'n cenedl o osgoi toriadau pellach i wariant cyhoeddus a bygythiad cynyddol o breitafeiddio."