Mwy o Newyddion
Apêl 'Ategolion at y Galon' Merched y Wawr yn codi dros £30,000
Mae Merched y Wawr wedi bod yn brysur ers Medi 2014 yn casglu ategolion, ac yna yn eu gwerthu ym mhob pegwn o Gymru.
Erbyn hyn maent wedi codi dros £30,000 trwy yr apêl 'Ategolion at y Galon'.
Dywed Meryl Davies, Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr: “Mae’r swm yma yn anghredadwy - mae caredigrwydd a chefnogaeth aelodau a ffrindiau yn rhywbeth sy’n gwneud y mudiad yn galon y gymuned.”.
Mae’r arian i gyd yn mynd i elusen Sefydliad y Galon Cymru ac mae diffibrilyddion yn cael eu gosod mewn cymunedau.
Lansiwyd llyfryn “Merched a Chlefyd y Galon” yn yr Eisteddfod llynedd ac mae dros 200 o nosweithiau ymwybyddiaeth iechyd neu achub bywyd wedi eu cynnal.
Dywed Jayne Lewis o Sefydliad y Galon Cymru: “Fe fydd stondin arbennig yn Neuadd Morgannwg yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd a Siop arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni. Dewch yn llu i gefnogi."
Cydnabyddwyd gwaith arbennig Merched y Wawr yn gynharach eleni pan gawsant y wobr gyntaf yn seremoni WCVA - Class Communucations am Godi Arian Mewn Ffordd Arloesol.
Hefyd cyrhaeddodd Meryl, y Llywydd, rownd derfynol 'Womenspire' am ei gwaith yng nghymunedau gwledig Cymru.