Mwy o Newyddion
Yr argyfwng ffoaduriaid yn arwain at yr ymateb dyngarol mwyaf yn hanes Oxfam
Mae’r argyfwng ffoaduriaid byd-eang presennol wedi arwain at yr ymateb dyngarol mwyaf yn hanes Oxfam, meddai’r asiantaeth ryngwladol heddiw wrth lansio ymgyrch newydd yn galw ar lywodraethau i wneud mwy i helpu teuluoedd sydd wedi gorfod ffoi o’i cartefi.
Darparodd Oxfam gymorth dyngarol i bron i naw miliwn o bobl y llynedd – y nifer mwyaf yn ei hanes – y mwyafrif ohonynt yn ffoi gwrthdaro a thrychineb.
Mae ffigyrau newydd sy’n cael eu rhyddhau wythnos nesaf yn debygol o ddangos bod cynnydd pellach yn nifer y ffoaduriaid ledled y byd.
Mae’r nifer o bobl sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi,yn ffoaduriaid a phobl sy’n ddigartref yn eu gwlad eu hunain, ar ei uchaf ers yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r gwrthdaro yn Syria wedi bod yn ffactor enfawr, ond mae pobl yn ffoi rhag trais yn Ne Swdan, Nigeria, Burundi, Irac ac Yemen, ymhlith eraill hefyd.
Mae Oxfam yn rhybuddio bod llywodraethau wedi methu ymateb yn ddigonol i’r argyfwng, gan droi eu cefnau ar ddioddefaint miliynau o bobl ac yn rhai achosion yn gweithredu i atal ffoaduriaid rhag cyrraedd eu ffiniau.
Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf mae Oxfam wedi helpu pedair gwaith gymaint o bobl ac y gwnaeth yn ystod trychinebau deuol Tswnami Cefnfor yr India a’r gwrthdaro yn Darfur yn 2005. Nawr, yn fwy nac erioed o’r blaen mae Oxfam yn gweithio gyda mwy o bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi, a’r bobl leol sy’n eu cynnal.
Mae ymgyrch newydd Oxfam, Sefyll Fel Un, yn gobeithio rhoi pwysau ar arweinwyr byd i groesawu mwy o ffoaduriaid, i stopio teuluoedd rhag cael eu gwahanu ac i warchod pobl sy’n gorfod ffoi o’u cartrefi.
Meddai Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru: “Yn ystod yr Hydref y llynedd gwnaeth pob Awdurdodau Lleol yng Nghymru addewid i groesawu ac ailgartrefu ffoaduriaid o Syria.
"Fodd bynnag, gwta wyth mis yn ddiweddarach dim ond pum sydd wedi gwneud hynny, gyda 78 o bobl wedi cyrraedd Cymru rhwng Hydref 2015 a Mawrth 2016.
“Nid yw hyn yn ddigon. Er mwyn ailgartrefu ein Cyfran Deg o ffoaduriaid o Syria, mae gofyn i ni groesawu 724 o bobl cyn diwedd y flwyddyn. Dyma rai o’r bobl fwyaf bregus yn y byd, pobl heb unrhyw ddewis ond ffoi; eu cartrefi wedi eu dinistrio a’u bywydau ar chwâl.
“Mae’n rhaid i Gymru gadw at ei gair a gwneud mwy i helpu teuluoedd sy’n ffoi gwrthdaro, erledigaeth a thrais. Dewch i ni wneud Cymru yn Genedl Noddfa.”
Meddai Mark Goldring, prif weithredwr Oxfam GB: “Mae miliynau o ferched, dynion a phlant yn ffoi o’u cartrefi,yn rhoi eu bywydau mewn peryg er mwyn ceisio cyrraedd harbwr diogel.
"Mae’r rhai sy’n ddigon lwcus i oroesi yn aml yn ffendio eu hunain yn byw mewn amgylchiadau truenus, heb ddŵr glân na bwyd ac yn wynebu gelyniaeth, anffafriaeth a chamdriniaeth gyda gormod o lywodraethau yn gwneud bron dim i’w helpu nac eu gwarchod.
“Mae’r argyfwng ffoaduriaid yn un o heriau mwyaf ein cyfnod. Mae’n argyfwng cymhleth sydd angen ymateb sydd wedi ei gyd-lynnu yn fyd-eang.
“Mae llywodraeth y DU wedi bod yn hael iawn wrth ddarparu cymorth, ond nid yw arian yn ddigon i ddatrys yr argyfwng. Fel pumed economi cyfoethocaf y byd, gallai a dylai’r DU wneud mwy i groesawu ffoaduriaid.”
Mae Oxfam yn nodi bod y cytundeb diweddar rhwng llywodraethau Ewrop a Thwrci sydd wedi dal miloedd o ddynion, merched a phlant yn Groeg, a hynny’n aml mewn amgylchiadau arswydus, yn mynd yn erbyn ysbryd cyfraith ryngwladol ac yn gosod cynsail peryglus.
Wrth gyhoeddi eu bod yn cau gwersyll ffoaduriaid Dadaab, dywedodd Llywodraeth Kenya y gallant wrthod ffoaduriaid o Somalia os ydy Ewrop yn gwrthod ffoaduriaid o Syria.
Cyn dwy uwchgynhadledd fawr ar yr argyfwng ffoaduriaid a mudo yn Efrog Newydd ym mis Medi, mae Oxfam wedi lansio deiseb heddiw, yn galw ar lywodraethau nid yn unig i roi cartef i fwy o ffoaduriaid ond hefyd i wneud mwy i helpu gwledydd sy’n rhoi noddfa i’r mwyafrif o ffoaduriaid.
O ffoaduriaid o Hwngari yn Awstria in 1956, i bobl oedd yn ffoi hil-laddiad yn Rwanda yn 1994 a’r ffoaduriaid sy’n cyrraedd yr Eidal heddiw, mae Oxfam wedi darparu cymorth allweddol i filiynau o bobl sy’n ffoi gwrthdaro a thrychineb.