Mwy o Newyddion
Eurig Wyn, gwleidydd amlwg Plaid Cymru yn ildio’r awenau fel Cynghorydd Waunfawr
Mae’r Cynghorydd Eurig Wyn wedi penderfynu ildio’r awenau fel cynrychiolydd Plaid Cymru Waunfawr ar Gyngor Gwynedd.
Yn wleidydd blaenllaw dros Blaid Cymru ers nifer o flynyddoedd, enillodd Eurig Wyn sedd Waunfawr yn Etholiad Cyngor Gwynedd 2012 gan weithio'n galed i gynrychioli pobl yr ardal.
Bu’n gynrychiolodd Cymru fel Aelod o Senedd Ewrop rhwng 1999 a 2004 ac mae hefyd wedi bod yn Gynghorydd Cymuned Waunfawr ers nifer o flynyddoedd. Cychwynnodd ei yrfa wleidyddol gyda’r hen Gyngor Sir Gwynedd yn 1989.
"Rwyf wedi mwynhau fy amser fel Cynghorydd Gwynedd ac yn teimlo mai dyma'r amser iawn i mi drosglwyddo'r awenau i gynrychiolydd newydd oherwydd rhesymau personol,” eglurodd Eurig Wyn.
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio'n galed yn lleol i sefydlu Canolfan Feddygol newydd ar gyfer y pentref ac mae gwaith yn hefyd ar y gweill i greu maes chwarae newydd yn Waunfawr.
"Prosiect arall rydym wedi bod yn gweithio tuag ato yw datblygiad tai fforddiadwy i bobl leol yng Ngerddi Bach ynghyd â'r cynllun hydro-ynni arloesol yng Nghefn Du ddaw ag elw cymunedol er budd y bobl leol yn Waunfawr.
“Rwy'n hynod falch ein bod newydd ethol Aelod Cynulliad newydd Plaid Cymru dros Arfon yn Siân Gwenllian a fydd yn cydweithio gyda Hywel Williams, AS Plaid Cymru a Jill Evans ein AS Ewropeaidd Plaid Cymru ym Mrwsel.
"Mae gan Blaid Cymru dîm cryf o gynrychiolwyr yn yr ardal ac rwyf wrth fy modd bod Edgar Owen wedi ei ddewis fel ymgeisydd nesaf Plaid Cymru i gydweithio â’r gwleidyddion hyn i gynrychioli pobl Waunfawr a'r ardal,” meddai Eurig Wyn.
Wrth dalu teyrnged i'r Cynghorydd Eurig Wyn, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yng Ngwynedd, Y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Fel gwleidydd profiadol a thalentog, bydd hi’n anodd iawn llenwi esgidiau Eurig Wyn.
"Rydym yn ddiolchgar iddo am ei waith parhaus dros Blaid Cymru yma yng Ngwynedd, wrth iddo wneud y penderfyniad i gamu allan o'r cylch gwleidyddol.
"Dymunwn y gorau iddo i’r dyfodol ac edrychwn ymlaen at groesawu Edgar Owen, aelod gweithgar o'r gymuned yn Waunfawr, fel ymgeisydd lleol nesaf Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd.”