Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Mehefin 2016

Aelod Cynulliad yn ennill cefnogaeth trawsbleidiol dros Gymru i aros yn yr UE

Yn ystod dadl ar yr Undeb Ewropeaidd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher, pwysleisiodd Dafydd Elis-Thomas, Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd, ei gred ei fod yn well i Gymru aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Siaradodd Dafydd Elis-Thomas AC fel rhan o ddadl Aelodau Unigol a gyflwynwyd ganddo fe ar y cyd gydag Eluned Morgan AC a Dawn Bowden AC o’r Blaid Lafur.

Derbyniodd y datganiad a ddwedodd y “byddai Cymru’n gryfach, yn fwy diogel ac yn fwy llewyrchus pe bai'n parhau i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd” gefnogaeth drawsbleidiol hefyd gan nifer o aelodau o’r Blaid Geidwadol.

Ar ôl trafodaeth fywiog ar refferendwm yr UE, ar y ddwy ochr y ddadl, pleidleisiodd 44 o’r Aelodau Cynulliad o blaid y datganiad i gefnogi'r UE a 9 yn erbyn.

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas AC yn ystod y drafodaeth: “Beth sy’n bwysig inni gofio am yr Undeb Ewropeaidd yw ei bod hi’n undeb sydd wedi newid ac wedi diwygio ar hyd ei hamser.

“Rydym yn byw mewn byd sydd yn fyd-eang.

"Mae gyda ni ranbarthau economaidd enfawr drwy’r byd i gyd

" Ac eto, mae’r ddadl yma yn cael ei chyflwyno y byddai i ni, fel teyrnas, i fod y tu fas i ranbarth byd-eang o fyd sydd yn farchnad gyfan yn rhyw fodd yn fanteisiol.

"Felly, nid wyf yn derbyn y ddadl honno.”

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas AC nad oedd yn credu bod yna unrhyw: ‘warant o gwbl y bydd modd cael marchnad rydd o’r newydd yn y farchnad sengl.”

Wrth gloi’r ddadl, dywedodd: “Os rydym ni’n colli'r un yma, ni sydd wedi ei cholli hi, y dosbarth gwleidyddol yng Nghymru a gollodd hi, am i ni beidio â gwneud y ddadl y ddigon cryf … dros hunaniaeth luosog.

“Yn yr Undeb Ewropeaidd, y mae’r Gymraeg yn iaith gyd-swyddogol. Nid yw’n gyd-swyddogol yn San Steffan.

“Dyna ddigon o ddadl i mi i aros yn Ewrop am byth.”

Rhannu |