Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Mehefin 2016

Gwyrdd yw’r du newydd

Mae pobl yng Nghymru yn cael eu hannog i newid o ddu i wyrdd wrth i waith ymchwil ynghylch yr hyn sy’n cael ei roi mewn biniau du weld bod chwarter ohono yn fwyd a chwarter arall yn ddeunydd y gellid ei ailgylchu. 

Gallai hyn fod yn allweddol i gyrraedd targedau ailgylchu Cymru yn gynnar a hybu'r economi.

Yn wir, pe byddai dim ond hanner y bwyd a’r deunydd sych y gellid ei ailgylchu sydd ym miniau Cymru yn cael ei ailgylchu, byddai Cymru yn cyrraedd ei tharged statudol ar gyfer 2025 o ailgylchu 70 y cant naw mlynedd yn gynnar. 

Cyhoeddwyd gwaith ymchwil gan WRAP Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, cyn datganiad cyntaf Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn y Senedd, pryd y nododd ei blaenoriaeth i greu economi mwy cylchol yng Nghymru. 

Economi gylchol yw un ble y mae’n bosib i ddeunydd o safon uchel sy’n deillio o wastraff gael ei roi yn ôl i weithgynhyrchwyr Cymru fel deunydd crai eilaidd i’w ddefnyddio i gynhyrchu eto ac eto.   

Amcangyfrifir ei fod yn bosibl i’r economi gylchol greu oddeutu 30,000 o swyddi yng Nghymru, gyda phobl yn cael eu cyflogi i gasglu, cludo, ail-brosesu ac ail-weithgynhyrchu y deunyddiau hyn, ac y gallai fod o werth economaidd o dros £2 biliwn y flwyddyn. 

Mae'r strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff yn golygu sicrhau bod deunydd perthnasol gwerthfawr yn cael ei ddefnyddio am cyhyd â phosib ac ei fod yn cyd-fynd ag egwyddor yr economi gylchol. 

Mae’r dadansoddiad gan WRAP yn datgelu y tueddiadau diweddaraf yng Nghymru ym maes ailgylchu, ac er y bu cynnydd o 14 y cant mewn deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn cael eu hailgylchu o gartrefi, mae biniau ledled Cymru yn parhau i gael eu llenwi gydag eitemau y gellid eu hailgylchu neu eu hail-ddefnyddio yn hawdd. 

Yn ogystal â gwastraff bwyd a deunydd sych y gellir ei ailgylchu, gwelwyd yn yr astudiaeth bod 17 y cant o’r gwastraff yn drydanol ac yn offer electronig a 50 y cant yn ddillad a defnyddiau, a’u bod yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.  

Meddai Lesley Griffiths: “Mae’n wych gweld bod arferion ail-gylchu pobl yn gwella’n sylweddol.  Fodd bynnag, mae’r gwaith ymchwil hwn yn dangos bod mwy i’w wneud o hyd i gyrraedd ein nod o fod yn wlad â Dyfodol Diwastraff erbyn 2050.

“Yn ogystal â’r manteison amgylcheddol amlwg, mae bod yn gymdeithas sy’n ailgylchu llawer yn sail i economi gylchol gref.

"Gall ail-gylchu deunyddiau gwerth uchel roi hwb enfawr i economi Cymru, greu swyddi yn ail-brosesu’r deunyddiau hyn yma yng Nghymru, a gostwng ein hôl-troed carbon.  

“Mae ein gwaith ymchwil i arferion ail-gylchu yn bwysig wrth lywio ein gwaith i gyrraedd ein targedau ailgylchu. 

"Er bod llawer i’w ddathlu, mae’n dangos y gallai newidiadau bychain i arferion ailgylchu pobl gael effaith amgylcheddol ac economaidd enfawr. 

"Byddwn nawr yn ceisio gwneud mwy i ddatblygu yr economi gylchol ac i gael mwy o bobl i ailgylchu.” 

  • Mae strategaeth wastrafff Llywodraeth Cymru, Tuag at Ddyfodol Diwastraff: Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, yn pennu'r uchelgeisiau i ddod yn wlad sy’n ailgylchu llawer erbyn 2025, ac yn wlad ddiwastraff erbyn 2050.  Bydd y Strategaeth yn cael ei hadolygu yn ystod y flwyddyn nesaf.  

 

Rhannu |