Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mehefin 2016

Honiad yr Ymgyrch i Adael y daw arian i Gymru yn 'ffantasi llwyr'

Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru heddiw wedi beirniadu honiad yr ymgyrch i Adael y bydd Cymru'n derbyn iawndal am unrhyw golled cronfeydd strwythurol yr UE yn achos pleidlais i Adael, gan ei alw'n "ffantasi llwyr."

Pwysleisiodd Leanne Wood nad oes gan yr ymgyrch i Adael y grym na'r gallu i wneud ymrwymiadau gwariant ar ran Llywodraeth nesaf y DG, gan atgoffa pobl nad yw'r Ceidwadwyr erioed wedi sicrhau cyllido teg i Gymru ac na ellir ymddiried ynddynt i warchod economi Cymru.

Dywedodd Leanne Wood: "Mae honiad yr ymgyrch i Adael y byddai Cymru'n derbyn iawndal am unrhyw golledion cronfeydd strwythurol yr UE yn achos pleidlais i adael yn ffantasi llwyr.

"Nid oes gan yr ymgyrch i Adael y grym na'r gallu i wneud ymrwymiadau gwariant ar ran llywodraeth nesaf y DG.

"Mae ein cenedl wedi dioddef degawdau o dangyllido gan lywodraethau Llafur a Cheidwadol yn San Steffan.

"Mae'r Torïaid wedi methu â sicrhau cyllido teg i Gymru - nid ydynt hyd yn oed yn derbyn yr egwyddor o gydraddoldeb gyda chenhedloedd eraill.

"Dro ar ôl tro maent wedi pleidleisio i dorri bloc grant Cymru.

"Yn syml, ni ellir ymddiried yn y Torïaid i warchod ein heconomi.

"Mae'r Undeb Ewropeaidd yn sicrhau nifer o fuddiannau i'r economi Gymreig ac i hawliau gweithwyr.

"Mae Plaid Cymru'n credu mai pleidlais i aros sydd orau i'n cenedl.

"Gyda Boris Johnson yn dwysau ei ymgyrch i gipio'r allweddi i Rif 10 Downing Street, pleidlais i Aros ar Fehefin 23 sy'n rhoi'r cyfle i gorau i ni osgoi toriadau hyd yn oed dyfnach gan y Ceidwadwyr a bygythiad hyd yn oed mwy o breifateiddio i'n gwasanaethau cyhoeddus."

Rhannu |