Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Mehefin 2016

Bronglais ymysg pedwar ysbyty sy'n treialu oriau ymweld agored

Mae Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn treialu oriau ymweld agored ar wardiau Meurig.

Mae cynllun peilot un mis o oriau ymweld agored yn cael ei gyflwyno ar draws pedair ysbyty acíwt Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn helpu i lywio adolygiad yn eu polisi ymweld â chleifion mewnol.

Fel rhan o'r adolygiad hwn, mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn edrych ar bob agwedd o ymweld â chleifion mewnol a bydd yn cynnwys ymgynghori â grwpiau staff a chleifion. Bydd gwerthusiad yn digwydd ar ddiwedd y mis i adolygu llwyddiant y peilot.

Gall ymwelwyr ag Ysbyty Bronglais alw i mewn i weld eu hanwyliaid sy'n cael eu trin ar wardiau Meurig rhwng 2pm ac 8pm bob dydd tan 9 Gorffennaf, 2016.

Dywedodd Caroline Oakley, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: "Pan fydd cleifion yn cael bwyd neu'n derbyn gofal, efallai y gofynnir i ymwelwyr i gamu y tu allan i ardal y ward am gyfnod byr er mwyn rhoi rhywfaint o breifatrwydd i’w anwyliaid ac i helpu staff y ward i gyflawni eu dyletswyddau.

Staff y ward sydd â’r hawl i wneud y dewis hwn, ac rydym yn gobeithio na fydd hyn yn atal teulu a ffrindiau rhag galw heibio – mae’r fantais i gleifion o gael ymwelwyr tra yn yr ysbyty yn enfawr.

"Rydym yn gobeithio y bydd agor wardiau am gyfnod hirach yn rhoi rhywfaint o normalrwydd i gleifion ac yn fwy cyfleus i deuluoedd.

"Byddwn hefyd yn edrych i mewn a allai polisi ymweld mwy hyblyg helpu gyda thagfeydd parcio yn rhai o'n hysbytai.

"Rydym yn gwerthfawrogi y bydd rhai cleifion yn ffafrio oriau ymweld mwy strwythuredig, a byddwn yn trafod hyn gydag unigolion er mwyn sicrhau bod eu dewisiadau personol yn cael eu bodloni."

Bydd cyfle i ymwelwyr roi adborth ar eu profiad, naill ai'n uniongyrchol i Brif Nyrs y ward neu mewn llyfr sylwadau sydd ar gael ar bob ward sy'n cymryd rhan, a bydd hyn yn ffurfio rhan o'r gwerthusiad ar ddiwedd y cyfnod prawf.
 

  • Mae Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn treialu oriau ymweld agored ar wardiau Gwenllian, Ceri a Derwen.
  • Mae Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, yn treialu oriau ymweld agored ar Ward 1 a Ward  9.
  • Mae Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd yn treialu oriau ymweld agored ar Ward 3.
Rhannu |