Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mehefin 2016

Plaid Cymru - cartrefi incwm-isel ar eu colled fwy na neb yn achos pleidlais i adael yr UE

Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi rhybuddio y bydd cartrefi incwm-isel ar eu colled yn fwy na neb yn sgil y sioc economaidd pe bai’r DG yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth ddyfynnu ffigyrau newydd gan y Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, nododd Leanne Wood y byddai Cymru a’i heconomi cyflog-isel yn cael ei tharo’n anghymesur, yn enwedig os yw llywodraeth y DG yn glynu at siarter gyllidol llym y Canghellor a gwneud toriadau dwfn i wariant cyhoeddus.

Dywedodd Leanne Wood: “Pe bai’r DG yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r holl dystiolaeth yn dangos mai cartrefi incwm-isel fyddai ar eu colled fwy na neb.

“Mae’r ymchwil newydd hwn yn dangos y byddai pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith ar dderbynebau treth, gan orfodi newidiadau i bolisiau treth a gwariant.

“Pe bai’r Canghellor yn dymuno bwrw mlaen gyda’i siarter gyllidol llym, bydd hyn yn golygu y gall gartrefi incwm-isel golli hyd at £5,542 y flwyddyn mewn credydau treth a thaliadau gwarchodaeth gymdeithasol yn 2020.

“Mae Cymru eisoes yn dioddef effeithiau economi cyflog-isel, sy’n golygu y byddai sioc economaidd pleidlais i adael yn debygol o daro cartrefi Cymreig yn anghymesur.

“Heb os, byddai gweithwyr Cymreig ar eu colled pe baem yn gadael yr UE.

“Mae’r UE yn sicrhau nifer o fuddiannau i’r economi Gymreig ac i hawliau gweithwyr. Pleidlais i Aros ar Fehefin 23 sydd yn gwneud y mwyaf o synnwyr economaidd i Gymru.”

Rhannu |