Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mehefin 2016

Cymru’n dweud 'Croeso': Oxfam yn galw ar y cyhoedd i ysgrifennu llythyr o groeso i ffoaduriaid

I ddathlu Wythnos Ffoaduriaid sy'n dechrau heddiw, mae Oxfam Cymru yn lansio menter newydd ar draws Cymru gyfan, yn galw ar y cyhoedd i ysgrifennu llythyr o croeso i deuluoedd o ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd Cymru.

Fel rhan o ymgyrch ehangach Oxfam, Sefyll Fel Un, sy'n galw ar arweinwyr byd i gytuno ar ymateb byd-eang i'r argyfwng ffoaduriaid, mae Oxfam Cymru eisiau sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan wrth ail-gartrefu ein Cyfran Deg o ffoaduriaid a chynnig croeso cynnes i deuluoedd pan maent yn cyrraedd yma, gan wneud Cymru yn Genedl Noddfa.

Mae'r argyfwng ffoaduriaid byd-eang presennol wedi arwain at yr ymateb dyngarol mwyaf yn hanes Oxfam. Y llynedd rhoddodd Oxfam gymorth dyngarol i bron i naw miliwn o bobl.

Mae Oxfam Cymru’n gobeithio y bydd y llythyrau croesawgar yn gwneud i ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd Cymru deimlo'n ddiogel ac yn saff.

"Mae ysgrifennu llythyr o groeso yn weithred syml ond pwerus," meddai Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru.

"Gallwch ysgrifennu llythyr gartref a’i bostio yn eich siop Oxfam leol, neu gallwch ysgrifennwch llythyr yn y siop ar un o’n cardiau post Cenedl Noddfa. Neu mae croeso i chi anfon neges o groeso ar e-bost at oxfamcymru@oxfam.org.uk.

"Sut bynnag yr ewch ati i ysgrifennu eich neges, gallwch fod yn sicr y bydd eich geiriau o groeso yn cael effaith ar deuluoedd o ffoaduriaid sy’n cyrraedd yma.

"Dyma rai o'r bobl fwyaf bregus yn y byd, teuluoedd oedd heb unrhyw ddewis ond ffoi, eu cartrefi wedi eu dinistrio a'u bywydau yn deilchion. Ysgrifennwch lythyr heddiw i’n helpu ni i wneud Cymru yn Genedl Noddfa."

Byddai derbyn llythyr o groeso wedi bod yn braf iawn yn ôl Solomon a ddaeth i Gymru o Eritrea naw mis yn ôl: “Er fyd mod i’n meddwl bod pobl yn gyfeillgar yng Nghymru, mi fyddai wedi bod yn braf derbyn llythyr i groeso pan ddes i yma gyntaf. Rydw i’n meddwl ei fod yn syniad da.”

Daeth Alemayehu o Ethiopia i Abertawe gyda ei deulu ddwy flynedd yn ôl. Meddai: “Mi fyddai wedi bod yn braf i fy mhlant dderbyn negesuon gan blant lleol yn dweud ‘Helo’ ac yn dweud bod croeso iddynt yma ac eu bod nhw mewn lle saff a chyfeillgar.”

Mae Solomon ac Alemayehu mawr yn rhoi yn ôl i’r gymuned sydd wedi eu croesawu wrth wirfoddoli yn Siop Oxfam ar Stryd y Castell yn Abertawe.

I ddod o hyd i'ch siop Oxfam agosaf er mwyn postio eich llythyr ewch i:

http://www.oxfam.org.uk/shop/local-shops neu cysylltwch â Oxfam Cymru.

Llun:  Kirsty Davies-Warner

Rhannu |