Mwy o Newyddion
Bwrdd Iechyd yn arwain y ffordd er mwyn rhwystro ysmygu mewn ysbytai
BWRDD Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw’r cyntaf yng Nghymru i gyflwyno system sain gyhoeddus i annog smygwyr i beidio â smygu y tu allan i’w hysbytai.
Yr wythnos hon, mae BIP Hywel Dda yn lansio cynllun newydd, sydd wedi’i lysenwi’n ‘Pwyso’r Botwm’, mewn ymgais i atal smygu yn ei ysbytai yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Bydd y system sain yn cael ei lansio gan y Prif Weithredwr, Steve Moore, ddydd Gwener, yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.
Bydd gwesteion y lansiad yn cynnwys plant o Ysgol Cas-blaidd, a recordiodd y negeseuon dwyieithog, staff o’r gwasanaeth rhoi’r gorau i smygu, staff a fu’n rhan o’r gwaith o weithredu’r cynllun, cynghorwyr sirol Sir Benfro, ac uwch-reolwyr.
Meddai Teresa Owen, cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn bod holl safleoedd Bwrdd Iechyd y Brifysgol, er mis Gorffennaf 2012, wedi cael eu dynodi’n ffurfiol yn safleoedd di-fwg.
“Fodd bynnag, er bod y mwyafrif o staff, cleifion ac ymwelwyr yn parchu’r polisi hwn, mae rhai pobl yn parhau i smygu ar ein safleoedd.
“Mae ein polisi di-fwg yn cwmpasu’r holl safleoedd, ac mae’n berthnasol i holl aelodau’r cyhoedd, ac i gleifion (ac eithrio’r rheini sy’n byw mewn unedau iechyd meddwl preswyl, sydd wedi’u heithrio dan Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007), ymwelwyr, staff, a chontractwyr.
“Mae’r system sain yn galluogi gwylwyr i bwyso botwm coch, yn anhysbys, a fydd yn seinio neges sy’n atgoffa smygwyr ei fod yn safle di-fwg, ac sy’n gofyn iddynt ddiffodd eu sigarét.
“Mae gan bawb yr hawl i anadlu aer ffres, yn enwedig wrth ymweld â chyfleuster gofal iechyd, ac rydym yn cael cwynion yn rheolaidd am bobl yn smygu ar ein safleoedd.
“Rydym yn deall bod ymweld ag ysbyty yn gallu bod yn brofiad anodd weithiau, ond rydym yn disgwyl i smygwyr lynu wrth ein polisi di-fwg, a dylent ddisgwyl gorfod gadael safleoedd ein hysbytai os ydynt yn dymuno smygu.”
Mae polisi Bwrdd Iechyd y Brifysgol hefyd yn cynnwys y defnydd o e-sigaréts, a hynny mewn ymateb i bryderon ynghylch diogelwch e-sigaréts a’u hallyriadau peryglus posibl, yn ogystal â phryderon y gallai eu defnyddio danselio ymdrechion i ddatnormaleiddio’r weithred o smygu.
Os hoffech gael cymorth i roi’r gorau i smygu, ewch i wefan Digon yw Digon Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/79109) i ddod o hyd i wasanaeth sy’n addas i chi.