Mwy o Newyddion
-
Sian Gwenllian AC - Fedra i ddim cuddio fy siom heddiw yn sgil canlyniad y Refferendwm
24 Mehefin 2016Mae Aelod Cynulliad Arfon, Sian Gwenllian, wedi dweud bod y 75% o bobol ifanc wnaeth bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd angen ein cefnogaeth ni heddiw. Darllen Mwy -
Comisiynydd y Gymraeg yn ymateb i ddata am y Gymraeg mewn gofal sylfaenol
24 Mehefin 2016Mae ystadegau newydd am wasanaethau gofal sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi cyfle i’r Llywodraeth a’r Gwasanaeth Iechyd weithio gyda’i gilydd i wella profiad y claf yng Nghymru, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg. Darllen Mwy -
Amseriad synhwyrol i adael yr Undeb Ewropeaidd yn hanfodol meddai Undeb Amaethwyr Cymru
24 Mehefin 2016Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu penderfyniad y Prif Weinidog i ddileu dod â chyfraith Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon i rym ac yn galw ar y DU a’r UE i gytuno ar amserlen synhwyrol ar gyfer gadael Darllen Mwy -
Carwyn Jones - Rwy’n siomedig tu hwnt gyda’r canlyniad
24 Mehefin 2016Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones fod y wlad wedi gwneud "penderfyniad sylfaenol" ond ei fod yn "siomedig tu hwnt gyda’r canlyniad." Darllen Mwy -
Catrin Stewart yn derbyn y wobr am y perfformiad gorau yn Ngwyl Ffilm Ryngwladol Caeredin
24 Mehefin 2016Catrin Stewart sydd wedi derbyn y wobr am y perfformiad gorau yn Ngwyl Ffilm Ryngwladol Caeredin am ffilm Gymraeg a leolir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Darllen Mwy -
Plant Cymru yn gweld hysbysebion alcohol bob 72 eiliad yn ystod Euro 2016
24 Mehefin 2016Wrth i bencampwriaeth Euro 2016 ddechrau poethi yn Ffrainc, mae ymchwil newydd yn datguddio bod y rhai ohonom sy’n gwylio’r gemau yng Nghymru wedi gweld marchnata alcohol unwaith bron i bob munud. Darllen Mwy -
Annog cefnogwyr i fwynhau stondin Croeso Cymru ym Mharis
23 Mehefin 2016Mae cefnogwyr pêl-droed Cymru sy'n teithio i Baris ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn yn cael eu hannog i ymweld â stondin Croeso Cymru yn yr Hôtel de Ville cyn i'r gêm ddechrau. Darllen Mwy -
Vaughan Gething - Ystyriwch yrfa gyda’r GIG
23 Mehefin 2016Wrth annerch mewn cynhadledd fawr yng Nghaerdydd, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Vaughan Gething wedi codi ymwybyddiaeth ynghylch y cyfleoedd ardderchog am swyddi a gyrfaoedd sy’n bodoli gyda’r GIG yng Nghymru. Darllen Mwy -
Cydweithio i symud Cymru ymlaen
23 Mehefin 2016Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi cyflwyno manylion y cytundeb a wnaed gyda Kirsty Williams pan ymunodd Llywodraeth Cymru fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Darllen Mwy -
Cyn-smygwr am 45 mlynedd yn gobeithio ysbrydoli trigolion Aberystwyth i roi'r gorau iddi
23 Mehefin 2016Mae un smygwr o Aberystwyth sydd wedi llwyddo i roi'r gorau i'w ddibyniaeth pedwar degawd i sigaréts gyda chymorth gan Dim Smygu Cymru yn galw ar drigolion lleol i sicrhau eu dyfodol di-fwg eu hunain. Darllen Mwy -
Cynnig Rhyddid Tref Y Bala i Gareth Bale
23 Mehefin 2016Wedi i bapurau newydd Y Cyfnod a’r Corwen Times dorri’r stori bod tref Y Bala i gael ei hail-enwi Y Bale, o fewn oriau, roedd y stori yn fyd-eang, ac ar wefannau a phapurau newydd led led y byd Darllen Mwy -
Galw ar y Grid Cenedlaethol i gadw etholaeth Arfon yn rhydd o unrhyw beilonau newydd
22 Mehefin 2016Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian yn galw ar y Grid Cenedlaethol i gadw etholaeth Arfon yn rhydd o unrhyw beilonau newydd, wrth i’r cwmni gyflwyno cynllun i gysylltu cebl tanfor o dan y Fenai ag is-orsaf newydd ym Mhentir. Darllen Mwy -
Mae angen mwy o roddwyr organau byw ar Gymru
22 Mehefin 2016Ar hyn o bryd mae 191 o bobl yng Nghymru sy’n disgwyl cael trawsblaniad arennau, ac mae’r nifer yn cynyddu Darllen Mwy -
Gwraig fentrus o Ddyffryn Clwyd yn buddsoddi mewn busnes gwledig arall
22 Mehefin 2016Deg mlynedd wedi i wraig fusnes sefydlu ei chwmni cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus ar ei fferm deuluol yn Henllan, Dinbych, mae hi wedi buddsoddi mewn busnes gwledig newydd. Darllen Mwy -
Mynediad am ddim i safleoedd Cadw wrth i’n tîm pêl-droed roi Cymru ar y map yn Ewro 2016
22 Mehefin 2016Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi mynediad am ddim i bob un o safleoedd Cadw sy’n cael eu rheoli’n uniongyrchol a hynny ddydd Sul 26 Mehefin. Darllen Mwy -
Cannoedd yn cerdded i gopa'r Wyddfa gyda Mike Peters
21 Mehefin 2016Ymunodd dros bedwar cant o bobl â’r seren roc Mike Peters i gerdded i gopa’r Wyddfa ddydd Sadwrn. Darllen Mwy -
Mynediad i’r farchnad sengl yn hollbwysig i swyddi Cymreig
21 Mehefin 2016Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi amlygu pwysigrwydd mynediad i’r Farchnad Sengl Ewropeaidd i’r economi Gymreig, gan gyfeirio at ffigyrau sy’n dangos fod 200,000 o swyddi Cymreig yn gysylltiedig â’r UE. Darllen Mwy -
Lansio ymgyrch ym Mhen Llŷn i ddelio â beicwyr môr anghyfrifol
20 Mehefin 2016Bydd Ymgyrch Neifion yn cael ei lansio ym Mhen Llŷn heddiw er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gysylltu â’r awdurdodau os ydynt yn amau fod rhywun yn aflonyddu bywyd gwyllt y môr a thorri Côd Ymddygiad Morwrol. Darllen Mwy -
Mudiadau Iaith Prydain ac Iwerddon yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd
20 Mehefin 2016Mae cynghrair o fudiadau iaith ym Mhrydain ac Iwerddon wedi rhyddhau llythyr ar y cyd heddiw sy’n cefnogi’r ymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, gan bwysleisio’r manteision diwylliannol ac economaidd. Darllen Mwy -
Esgobion Cymru’n pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd - mewnfudwyr yn cael eu ‘pardduo’
20 Mehefin 2016Mae mewnfudwyr yn cael eu ‘pardduo’ yn y ddadl ynglŷn â’r Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd. Dyna rybudd rhai o arweinwyr yr eglwys, wrth gyhoeddi eu bwriad i bleidleisio dros aros. Darllen Mwy