Mwy o Newyddion
Darganfod y 'Greal Sanctaidd' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth wedi cyhoeddi bydd Cwpan Nanteos yn cael ei harddangos yn gyhoeddus yn y Llyfrgell o ddydd Sadwrn ymlaen.
Y darn bregus hwn o bren yw’r cyfan sy’n weddill o ddysgl masarn hynafol a adnabyddir fel Cwpan Nanteos.
Mae union darddiad y Cwpan yn ddirgelwch mawr, ond yn ôl y traddodiad credir iddo ddod o Abaty Ystrad Fflur i feddiant teulu Powell Nanteos yn ystod Diddymiad y Mynachlogydd.
Yn ôl yr hanes, bu i saith mynach Sistersaidd ddianc o’r abaty gyda’r Cwpan yn eu meddiant a chael lloches ym Mhlasty Nanteos. Pan fu farw’r olaf o’r brodyr ymddiriedwyd y Cwpan i ofal teulu’r Poweliaid sydd wedi’i drysori a’i ddiogelu hyd heddiw.
Meddai Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “O’r diwedd y mae’r crair hynafol uchel ei barch wedi dychwelyd adref i Gymru ac i Geredigion a bydd ei arddangos yn caniatáu i ymwelwyr weld y gwrthrych dirgel.
"Beth bynnag yw ei darddiad – ai hwn yw’r Greal Sanctaidd neu rhan o’r Wir Groes neu gwpan cymun o Ystrad Fflur? – bydd bob ymwelwyr yn gorfod dod i’w casgliadau eu hunain ynghylch beth yn union yw’r cwpan hynafol.
"Yn wir y mae hwn yn wrthrych rhyfeddol a bydd yn ychwanegiad diddorol iawn i’n casgliadau cenedlaethol. Rydym yn ddiolchgar iawn i deulu Mirylees am ymddiried y Cwpan i’r Llyfrgell.”
Yn ôl un traddodiad, Cwpan Nanteos yw’r Greal Sanctaidd ei hun a’i fod wedi’i wneud o ddarn o’r Wir Groes; mae traddodiad arall yn mynnu mai dyma’r Cwpan yr yfodd Crist a’i ddisgyblion ohono yn y Swper Olaf.
Ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg honnir bod grym iacháu goruwchnaturiol yn perthyn i’r Cwpan.
Yn ôl pob sôn, byddai’r Cwpan yn cael ei roi ar fenthyg i gleifion, ac ernes werthfawr, megis arian neu oriawr drud, yn cael ei adael yn Nanteos, a hynny er mwyn sicrhau ei ddychweliad diogel i Nanteos.
Yr arfer oedd y byddai’r dioddefus yn yfed o’r Cwpan hwn neu hyd yn oed yn cnoi darn ohono, a hynny er mwyn cynyddu effaith y grym honedig.
Arddangoswyd y Cwpan yn gyhoeddus am y tro cyntaf yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan a hynny yng nghyfarfod y Cambrian Archaeological Society yn 1878, ac yn fuan wedyn lledaenodd yr hanes am ei rinweddau iachaol.
Ym 1901, fe drefnodd George Eyre Evans, hanesydd lleol o Aberystwyth, daith o gwmpas Ystrad Fflur a Nanteos gan boblogeiddio’r Cwpan a lledaenu’r storiâu am ei rinweddau.
Cynyddwyd y diddordeb yn y Cwpan gyda phobl o bedwar ban byd yn ymweld â Nanteos i’w weld gan roi eu ffydd yn ei rym honedig.
Gwerthwyd Nanteos gan y Poweliaid ym 1967, ac aethpwyd â’r Cwpan gyda’r teulu i Rhosan ar Wy. Yn 2014, lladratwyd y Cwpan o gartref un o’i berchnogion cyn ei ddarganfod eto bron i flwyddyn yn ddiweddarach.
I gyd fynd â’r arddangosfa, bydd Yr Athro David Austin yn cyflwyno darlith yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar y 9fed o Orffennaf: ‘Strata Florida and its Sacred Landscape : a context for the Nanteos Cup’
Mae’r cwpan yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o’r 18fed o Fehefin, Dydd Llun i dydd Gwener , 9.30a.m. – 6.00 p.m a Dydd Sadwrn 9.30 a.m - 5.00 p.m.