Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Mehefin 2016

Codi ymwybyddiaeth myeloma - yr ail ganser mwyaf cyffredin o'r gwaed

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu i godi ymwybyddiaeth myeloma fel rhan o'r wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol (21-28 o Fehefin).

Mae dadansoddiad diweddar o ddata Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru yn dangos bod y gyfradd oroesi ar gyfer yr ail ganser mwyaf cyffredin hwn o'r gwaed yn cynyddu'n gyflym yng Nghymru, yn rhannol yn sgil gwell triniaeth.

Mae myeloma yn ganser o gelloedd plasma yn y mêr esgyrn.

Gellir effeithio ar unrhyw fan yn y corff lle mae mêr esgyn fel arfer yn weithredol (e.e. asgwrn y cefn, cawell asennau, esgyrn hir y breichiau a'r coesau).

Mae symptomau a nodweddion meddygol myeloma yn amrywiol iawn, a gallant fynd a dod.

Rhai o'r rhai mwy cyffredin yw clefyd yr esgyrn sy'n arwain at boen a lefelau calsiwm gwaed uchel.

Gall achosi anemia, a gall blinder fod yn broblem, yn ogystal â heintiau dro ar ôl tro.

Hyd yma, nid ydym yn gwybod yr holl ffactorau risg, ond mae'n fwy cyffredin mewn dynion a gallwch fod mewn perygl uwch o'i ddatblygu os oes hanes teuluol o myeloma.

Mae dod i gysylltiad ag ymbelydredd yn y gorffennol hefyd yn ffactor risg a hefyd rhai achosion o imiwnedd is. Ond mae angen inni ddeall mwy am y cyflwr.

Dywedodd Dr Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru: “Er bod cyfradd oroesi myeloma wedi cynyddu'n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf mae’r gyfradd oroesi yn gymharol isel o gymharu â mathau eraill o ganser.

"Rydym yn defnyddio Wythnos Ymwybyddiaeth Myeloma i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr hwn y mae angen inni wybod rhagor amdano o hyd.”

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.nhsdirect.wales.nhs.uk/

Rhannu |