Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mehefin 2016

AS Plaid Cymru yn herio penderfyniad HSBC i gau tair cangen yn Nwyfor Meirionnyudd

Mae cynllun gan HSBC i gau tair cangen o’r banc yng Ngwynedd wedi cael ei feirniadu’n hallt gan Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts.

Roedd Liz Saville Roberts yn ymateb i’r newyddion fod y banc yn bwriadu cau tair cangen yn yr etholaeth erbyn mis Medi 2016, sef Blaenau Ffestiniog, Tywyn a Bermo.

Daw’r cyhoeddiad lai na blwyddyn er is fanc NatWest gau eu canghenau yn y trefi. Golygai’r cyhoeddiad na fydd gan tref Blaenau Ffestiniog fanc.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Mae adroddiadau diweddar ynghylch dyfodol canghennau HSBC ym Mlaenau Ffestiniog, Tywyn a Bermo yn peri pryder mawr.

"Bydd cau y canghennau hyn yn ergyd fawr i drigolion lleol a busnesau, yn enwedig unigolion anabl, yr henoed a'r rhai sydd methu gyrru.

“Mae’r sefyllfa yn cael ei gwneud yn fwy bregus oherwydd penderfyniad NatWest i gau eu canghenau yn y trefi y llynedd.

"Mae penderfyniad HSBC i derfynu eu gwasanaeth yn gadael cymuned Blaenau Ffestiniog heb fanc, tra bod Tywyn a Bermo yn gorfod dygymod â dim ond un banc.

"Pa mor hir fydd hi cyn y bydd dyfodol y canghennau hynny'n cael eu rhoi dan amheuaeth?

“Y ddadl gyson yw y gall cwsmeriaid ddefnyddio bancio ar-lein. Ond nid yw hyn rhoi ystyriaeth i'r gwasanaeth band-eang gwael sydd i'w ganfod mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig rhai ardaloedd o Ddwyfor Meirionnydd.

“Dyma esiampl arall o ganoli gwasanaethau ac enghraifft arall o gymunedau gwledig ledled Cymru yn cael eu hamddifadu o wasanaeth bancio digonol tra bod pobl yn colli’r cyfle i fancio â pobl maent yn eu hadnabod ac ymddiried ynddynt.

“Arferai banciau fod yng nghalon ein cymunedau, yn cefnogi busnesau ac unigolion. Ond erbyn hyn maent yn symud yn bellach i ffwrdd o’r cymunedau yma ac mae cwsmeriaid yn cael eu trin fel rhifau di-wyneb. Rwy’n galw ar HSBC i adolygu eu penderfyniad.”

Un o'r cwmniau lleol caiff ei effeithio fwyaf gan y penderfyniad arfaethedig i gau cangen Blaenau Ffestiniog o'r HSBC yw Seren, y fenter gymdeithasol.

Dywedodd Rheolydd Gofal Seren Adelyn Ellis: “Mae canran sylweddol o drosiant y cwmni sydd yn £1.4 miliwn yn flynyddol yn arian parod, y mwyafrif ohono yn cael ei greu drwy ein mentrau masnachol.

“Os yw'r gangen yn cau bydd rhaid gwneud trefniadau i drafeilio i Borthmadog sydd 10 milltir i lawr y ffordd.

"Heblaw am y peryglon amlwg nid yw Porthmadog y dref hawddaf i ddod o hyd i fan parcio hwylus ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, heb son am wastraffu amser staff.

“Dros y blynyddoedd 'rydym wedi gwrthod amryw o gynigion gan fanciau eraill, rhai ohonynt yn cynnig gwell telerau bancio hyd yn oed, dim ond er mwyn cadw cangen yr HSBC yn y Blaenau.

"Os caiff y penderfyniad i'w wireddu bydd rhaid meddwl am ddefnyddio banc arall.”

Llun: Liz Saville Roberts a'r Cynghorydd lleol Mandy Williams-Davies yn ymuno a pobl leol tu allan i Fanc HSBC Blaenau Ffestiniog

Rhannu |