Mwy o Newyddion
S4C ar iPlayer am bum mlynedd arall
Drama ddirdynnol, dogfen, chwaraeon, rhaglenni i blant a straeon o bob rhan o Gymru; mi fydd cynnwys gwreiddiol Cymraeg yn parhau ar sianel S4C ar BBC iPlayer yn dilyn llwyddiant cyflwyno'r gwasanaeth yn 2014.
Heddiw, mae S4C wedi croesawu'r newyddion fod y cynllun yn cael ei ymestyn am bum mlynedd pellach, tan fis Mawrth 2022, oherwydd llwyddiant y cyfnod peilot cychwynnol, gyda chymeradwyaeth Ymddiriedolaeth y BBC.
Cafodd sianel S4C ei hychwanegu at BBC iPlayer ym mis Rhagfyr 2014 ac mae poblogrwydd y cynllun wedi cyfrannu at gynnydd sylweddol mewn sesiynau gwylio cynnwys S4C ar-lein.
Mae cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones wedi croesawu'r newydd a llongyfarch llwyddiant y cynllun: "Roedd ychwanegu S4C fel sianel annibynnol at wasanaeth BBC iPlayer ym mis Rhagfyr 2014 yn gam poblogaidd sydd wedi bod o fudd i'n gwylwyr.
"Rydym yn croesawu penderfyniad Ymddiriedolaeth y BBC i barhau â'r cynllun ac mae ei lwyddiant yn dangos sut mae partneriaeth S4C gyda'r BBC yn gallu bod o fudd i wylwyr ar draws y Deyrnas Unedig."
Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr y BBC dros Gymru: "Cymeradwyodd yr Ymddiriedolaeth bod S4C yn dod yn sianel barhaol am gyfnod hwy ar iPlayer er mwyn cydnabod llwyddiant ysgubol y cynllun peilot cychwynnol, ac rwy'n falch y bydd cynulleidfaoedd Cymraeg yn parhau i allu dal i fyny â'u hoff raglenni ar iPlayer.
"Cafodd partneriaeth lwyddiannus y BBC ag S4C ei chydnabod gan y Llywodraeth ym Mhapur Gwyn y Siarter, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y bartneriaeth honno'n parhau i ddwyn ffrwyth yn ystod cam nesaf y Siarter."
Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru Wales: "Diolch i gydweithio gwych rhwng S4C a'r BBC, rydym wedi gweld pa mor effeithiol y mae poblogrwydd BBC iPlayer wedi bod wrth ddod â deunydd Cymraeg i gynulleidfaoedd.
"Mae cymeradwyaeth ddiweddaraf Ymddiriedolaeth y BBC yn golygu y bydd pob rhaglen deledu Gymraeg gan y BBC ac S4C - yn ogystal â Radio Cymru - yn parhau i fod ar gael yn fyw ac ar alw, sy'n newyddion gwych i gynhyrchwyr rhaglenni a chynulleidfaoedd fel ei gilydd mewn marchnad ddigidol brysur.
"Mae'r datblygiad hwn, ochr yn ochr â thwf parhaus Cymru Fyw ar-lein, yn sicrhau bod gan gynulleidfaoedd bob cyfle i ddod o hyd i’r cynnwys y maen nhw yn ei garu."