Mwy o Newyddion
-
Cyfle i fwrw golwg ar gynlluniau Academi Hwylio Pwllheli
16 Mawrth 2012Yn dilyn digwyddiad ymgynghori cyhoeddus calonogol iawn, bydd cynlluniau diweddaraf ar gyfer Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau arloesol newydd sy’n cael ei gyllido gan yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu harddangos mewn digwyddiad yng nghanolfan Hwylio Pwllheli, dydd Llun, 19 Mawrth. Darllen Mwy -
Leanne Wood yw arweinydd newydd Plaid Cymru
16 Mawrth 2012Mae Leanne Wood wedi ei hethol yn arweinydd newydd Plaid Cymru. Darllen Mwy -
Pobl o flaen y gwleidyddion ar bwerau pellach i Gymru
16 Mawrth 2012Mae pobl Cymru o flaen y mwyafrif o’n gwleidyddion pan ddaw’n fater o bwerau pellach i Gymru. Darllen Mwy -
Enillwyr gwobrau'r diwydiant cyhoeddi
16 Mawrth 2012Ymgasglodd cyhoeddwyr Cymru yn Aberystwyth nos Iau ar gyfer achlysur arbennig i gyflwyno Gwobrau’r Diwydiant Cyhoeddi. Yn ystod y seremoni, anrhydeddwyd gwaith y cyhoeddwyr am werthiant eu llyfrau yn ogystal â safon cynhyrchu a dylunio’r llyfrau. Darllen Mwy -
Effaith y newidiadau i’r system les ar famau a phlant
16 Mawrth 2012Mae ymchwil a gyhoeddir gan Achub y Plant yn dangos bod rhai mamau yng Nghymru mewn perygl o gael eu gwthio i dlodi gan effaith y newidiadau i’r system fudd-daliadau a gyflwynir gan Lywodraeth San Steffan. Darllen Mwy -
Caffaeliad mawr i’r coleg
16 Mawrth 2012 | Karen OwenMAE un o’r ymgyrchwyr mwyaf blaenllaw dros sefydlu Coleg Cymraeg Ffederal o fewn yr hen Brifysgol Cymru, wedi cael ei benodi’n aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol newydd. Darllen Mwy -
Polisiau Llywodraeth Cymru yn gyfystyr â buddsoddiad ym mhrifysgolion Lloegr
15 Mawrth 2012Mae llefarydd Plaid Cymru ar addysg Simon Thomas wedi ymateb gyda braw i gyfaddefiad y Gweinidog Addysg y bydd Llywodraeth Cymru yn talu ffioedd o hyd at £9,000 am bob myfyriwr Cymreig sydd yn astudio mewn prifysgol yn Lloegr, tra bydd ffioedd llawer o brifysgolion Cymru yn cael eu capio ar £7,500. Darllen Mwy -
Y Cyfryngau newydd a thechnoleg yn hanfodol i ddyfodol y Gymraeg
15 Mawrth 2012Bydd angen inni fod yn uchelgeisiol a meddwl ar raddfa fawr wrth ddefnyddio pŵer y cyfryngau newydd a thechnoleg i helpu i wneud yn siŵr bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu. Darllen Mwy -
Gwaith Maes yr Helmau yn dod â’r swm gwariant ar wella ffyrdd yng Nghymru i fwy nag £76m
15 Mawrth 2012Heddiw (dydd Iau, 15 Mawrth), bydd gwaith yn dechrau i adeiladu ffordd newydd 2.1km o hyd fel rhan o’r A470 ym Maes yr Helmau – Cross Foxes. Darllen Mwy -
Penodi Lowri Rhys Davies i arwain BBC Radio Cymru
14 Mawrth 2012Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi mai Lowri Rhys Davies sydd wedi ei phenodi yn Olygydd Rhaglenni Cyffredinol. Darllen Mwy -
Cymru, Lloegr a Bahrain - Eisteddfod yr Urdd yn Llundain
13 Mawrth 2012Am y tro cyntaf erioed, fe gynhelir Eisteddfod Ranbarth Urdd Gobaith Cymru yn Llundain ddydd Sadwrn (17 Mawrth 2012). Darllen Mwy -
Rhaid atal gwleidyddiaeth Lloegr rhag cosbi cleifion Cymru
13 Mawrth 2012Mae llefarydd Iechyd Plaid Cymru yn San Steffan, Hywel Williams AS, wedi ailadrodd rhybuddion y bydd Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lloegr, er gwaethaf datganoli, yn cael effaith sylweddol ar gleifion Cymreig. Darllen Mwy -
Pen-blwydd cyntaf The Passion
13 Mawrth 2012Y Pasg hwn, bydd National Theatre Wales a Rondo Media yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ym Mhort Talbot i nodi pen-blwydd cyntaf cynhyrchiad arloesol The Passion, gyda’r cast a’r criw yn bresennol yn cynnwys Michael Sheen ac Owen Sheers. Darllen Mwy -
Arweinwyr trawsbleidiol yn cefnogi datganoli darlledu
13 Mawrth 2012Mae arweinwyr naw o awdurdodau lleol Cymru wedi datgan eu cefnogaeth i ddatganoli pwerau dros y cyfryngau i Gymru. Darllen Mwy -
Cyfarfod cyntaf grŵp cyfeirio yr ymchwiliad i ofal preswyl
13 Mawrth 2012Bydd grŵp cyfeirio o aelodau o’r cyhoedd yn cwrdd am y tro cyntaf ddydd Mercher, (14 Mawrth), fel rhan o ymchwiliad gan bwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ofal preswyl i bobl hŷn. Darllen Mwy -
Golff Criw Dydd Mawrth
13 Mawrth 2012 | Arwel Jones, Hogia’r Wyddfa.Ar brynhawn braf ar gwrs golff Penmaenmawr yn y flwyddyn 2003 y penderfynodd pedwar cyfaill, Myrddin Owen, Vivian Williams, Arwel Jones, (tri aelod o Hogia’r Wyddfa) a’r actor John Ogwen, y byddent yn neilltuo pob dydd Mawrth i chwarae golff. Darllen Mwy -
Negeseuon marchnata yn cyrraedd plant yng Nghymru
13 Mawrth 2012Mae adroddiad newydd gan Alcohol Concern Cymru yn dangos bod plant mor ifanc â 10 oed yng Nghymru yn fwy cyfarwydd â rhai o’r prif frandiau a hysbysebion alcohol na rhai ar gyfer rhai bwydydd a byrbrydau poblogaidd. Darllen Mwy -
Aber Rag yn cyfrannu at Tŷ Hafan
13 Mawrth 2012Mae menter codi arian myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi dod i'r amlwg unwaith eto'r wythnos hon wedi i gynrychiolwyr o Aber Rag gyflwyno siec am £3,500 i’r elusen Tŷ Hafan. Darllen Mwy -
Pantyfedwen yw Emyn i Gymru 2012
13 Mawrth 2012Mae gwylwyr y gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C wedi dewis Pantyfedwen fel eu hoff emyn ar gyfer 2012. Darllen Mwy -
Adeilad newydd £9.3 miliwn Ysgol yr Hendre’n agor ei ddrysau
12 Mawrth 2012Mae ysgol gynradd newydd sy’n cynnig amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf i’r plant – ac adnoddau gwych i’r gymuned leol – wedi agor ei drysau yng Nghaernarfon heddiw. Darllen Mwy