Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mawrth 2012

Y Cyfryngau newydd a thechnoleg yn hanfodol i ddyfodol y Gymraeg

Bydd angen inni fod yn uchelgeisiol a meddwl ar raddfa fawr wrth ddefnyddio pŵer y cyfryngau newydd a thechnoleg i helpu i wneud yn siŵr bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu.

Dyna oedd y neges gan Leighton Andrews, y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, cyn cyfarfod cyntaf Grŵp newydd y Gymraeg, Technoleg a’r Cyfryngau Digidol.

Mae Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg, Iaith Fyw: Iaith Byw, yn rhoi pwysigrwydd mawr i rôl technoleg a’r cyfryngau digidol yn nyfodol y Gymraeg. Mae’r grŵp wedi’i sefydlu i gynghori ar y rhan honno o’r strategaeth.

Daw’r aelodaeth o amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys darlledwyr, cynhyrchwyr cynnwys, datblygwyr meddalwedd, ac academyddion.

“Bydd y cyfryngau darlledu traddodiadol a’r cyfryngau digidol newydd yn hanfodol i ddyfodol yr iaith. Mae angen i ddatblygiadau newydd yn y cyfryngau, technoleg a chynnwys digidol fod ar gael yn y Gymraeg os ydyn ni am i’r Gymraeg gael ei gweld fel iaith fodern, fyw,” meddai Mr Andrews.

“Ein huchelgais, a’r hyn rydyn ni’n ei ddisgwyl, yw y dylai siaradwyr Cymraeg fedru mwynhau a defnyddio cynnwys a chymwysiadau digidol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhai o’r datblygiadau mwyaf cyffrous o’r ddarpariaeth ddigidol ar-lein yn y Gymraeg wedi dod o gynnwys a chymwysiadau sydd wedi’u cynhyrchu gan y defnyddwyr, ac wedi’u creu gan y siaradwyr Cymraeg eu hunain.

“Mae’n rhaid inni ddefnyddio’r egni a’r ymrwymiad hwnnw a rhoi lle i leisiau newydd i sicrhau bod hyn yn parhau. Mae angen inni feddwl ar raddfa fawr, bod yn uchelgeisiol, ac anelu’n uchel.”

Dywedodd Mr Andrews y byddai’r grŵp newydd yn helpu Llywodraeth Cymru i wireddu’r uchelgeisiau hynny, ac yn rhoi cyngor ar eu cynllun gweithredu i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn y cyfryngau technolegol a digidol.

Bydd cylch gwaith y grŵp yn cael ei drafod yn y cyfarfod cyntaf, ond mae’n debygol o ganolbwyntio ar dri chwestiwn allweddol.

 

     Sut y gallwn sicrhau bod mwy o gynnwys, cynnyrch a gwasanaethau digidol sydd ar gael yn rhwydd ac yn cael eu marchnata i siaradwyr Cymraeg?

     Sut y gellir defnyddio datblygiadau technolegol i helpu i hybu’r defnydd o’r Gymraeg?

     Sut y dylai’r Llywodraeth flaenoriaethu unrhyw fuddsoddiad yn y maes hwn?

Cynhelir cyfarfod nesaf y grŵp ddechrau’r haf.

Llun: Leighton Andrews

Rhannu |