Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Mawrth 2012

Adeilad newydd £9.3 miliwn Ysgol yr Hendre’n agor ei ddrysau

Mae ysgol gynradd newydd sy’n cynnig amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf i’r plant – ac adnoddau gwych i’r gymuned leol – wedi agor ei drysau yng Nghaernarfon heddiw.

Mae lle i hyd at 450 o blant ar safle newydd £9.3 miliwn Ysgol yr Hendre, ac mae hefyd yn un o’r ysgolion mwyaf ecogyfeillgar yn y sir.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Mae sicrhau bod pawb o blant a phobl ifanc Gwynedd yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd yn flaenoriaeth allweddol inni fel Cyngor. Mae Ysgol yr Hendre’n enghraifft wych o bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru, yr ysgol ei hun, ei llywodraethwyr a’r gymuned ehangach yn gweithio efo’i gilydd fel tîm er mwyn cyflawni’r amcan yma.

“Bydd y prosiect arloesol yma’n golygu bod plant o’r rhan yma o Gaernarfon bellach yn elwa o gael eu haddysgu yn ysgol fwyaf modern Cymru.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Roy Owen, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol yr Hendre: “Mae hwn yn ddiwrnod y mae pawb ohonon ni wedi bod yn edrych ymlaen ato – mae gynnon ni bellach ysgol y gall pawb o’r disgyblion, ein staff a’r gymuned ehangach fod yn wirioneddol falch ohoni.

“Mae’r Ysgol yr Hendre newydd yn llawer mwy nag ysgol. Mae’r ffaith ei bod hi hefyd yn cynnwys cyfleusterau sy’n darparu addysg oedolion, mentrau iechyd a lles cymdeithasol yn ogystal â gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon yn golygu mai hi fydd calon y gymuned leol.”

Bydd disgyblion Ysgol yr Hendre bellach yn cael eu dysgu mewn adeilad newydd modern sy’n cymryd lle’r hen ysgol. Mae’r cynllun arloesol wedi rhoi naws agored i’r adeilad gyda hynny ag sy’n bosibl o ddefnydd o olau naturiol drwyddo, gan gynnig amgylchedd dysgu a gweithio nad oes ei well yng Nghymru.

Mae’r dulliau adeiladu a ddefnyddiwyd yn golygu bod yr adeilad yn aros yn gynnes yn y gaeaf ac yn glaear yn yr haf, gan leihau costau gwresogi. Mae hyn yn arwain at leihad o 60% mewn allyriadau carbon yn ystod oes yr adeilad, ac mae’r gallu i ailgylchu dŵr glaw ymysg ei lu o fanteision.

Meddai’r Cynghorydd Liz Saville Roberts, sy’n arwain ar Addysg ar Gyngor Gwynedd: “Yn ogystal â rhoi i ddisgyblion a’u hathrawon yr amgylchedd dysgu a gweithio y maen nhw’n ei haeddu, mae’r ysgol wedi derbyn dyfarniad safon rhagorol BREEAM, sy’n golygu ei bod hi’n un o’r ysgolion gwyrddaf yn y wlad.

“Adeilad newydd Ysgol yr Hendre yw’r prosiect diweddaraf mewn adeiladu ysgolion wrth i’r Cyngor fynd ati i ddarparu cyfleusterau sy’n addas ar gyfer gofynion cwricwlwm yr 21ain ganrif.”

Llun: Arweinydd Cyngor Gwynedd, Y Cyng Dyfed Edwards; Alun Ffred Jones, AC Arfon; Arwel Jones, pennaeth Ysgol yr Hendre; Y Cyng Roy Owen, cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol; Y Cyng Tudor Owen, aelod lleol Cyngor Gwynedd; Arweinydd Portffolio Addysg Cyngor Gwynedd, Y Cyng Liz Saville Roberts

Llun: Disgyblion Ysgol yr Hendre yn dathlu eu diwrnod cyntaf yn yr ysgol newydd

Rhannu |