Mwy o Newyddion
Negeseuon marchnata yn cyrraedd plant yng Nghymru
Mae adroddiad newydd gan Alcohol Concern Cymru yn dangos bod plant mor ifanc â 10 oed yng Nghymru yn fwy cyfarwydd â rhai o’r prif frandiau a hysbysebion alcohol na rhai ar gyfer rhai bwydydd a byrbrydau poblogaidd. Mae’r adroddiad Creu argraff yn disgrifio canlyniadau astudiaeth newydd o fwy na 400 o ddisgyblion ysgolion cynradd yng Nghymru, yn mesur i ba raddau roeddynt yn ymwybodol am frandio a hysbysebu alcohol.
Yn yr astudiaeth, dangoswyd i ddisgyblion 10 a 11 oed enwau brandiau a logos rhai diodydd alcoholaidd cyffredin, ynghyd â delweddau o hysbysebion teledu am alcohol, ochr yn ochr â rhai ar gyfer cynnyrch poblogaidd nad ydynt yn alcoholaidd, fel diodydd meddal a grawnfwydydd brecwast. Gofynnwyd i’r plant ddweud a oedd y cynnyrch yn ‘fwyd, ‘diod feddal’ neu’n ‘ddiod alcoholaidd’. Roedd tua chymaint, ac weithiau mwy, o blant yn adnabod brandiau a hysbysebion alcohol ag oedd yn gyfarwydd â brandiau a hysbysebion am gynnyrch sy’n apelio’n arbennig i blant, fel hufen iâ a theisenni.
Dangosodd yr ymchwil:
• Nododd 79% o’r plant yn gywir bod Carlsberg yn diod alcoholaidd, mwy na’r ganran oedd yn adnabod hufen iâ Ben and Jerry (74%) a theisenni Mr Kipling (41%) fel bwydydd
• Roedd mwy na thri ymhob pump (62%) yn adnabod enw’r brand alcohol Magners. Roedd mwy o fechgyn nag o ferched, a mwy o blant yn ne Cymru a’r gorllewin yn adnabod y brand hwn, a oedd hyd yn ddiweddar yn noddi Cynghrair Celtaidd rygbi’r undeb
• Roedd 95% o’r disgyblion yn adnabod logos Fosters a Stella Artois fel rhai ar gyfer diodydd alcoholaidd
• Roedd 79% yn gwybod mai logo ar gyfer diod alcoholaidd oedd un fodca Smirnoff. Roedd plant a ddywedodd eu bod wedi trio alcohol yn fwy cyfarwydd â’r brand hwn na phlant a oedd heb yfed erioed
• Roedd tri chwarter (75%) y plant yn cysylltu llun o’r cymeriadau Brad a Dan o hysbysebnion teledu Fosters ag alcohol, llawer mwy nag oedd yn adnabod delwedd o hysbyseb drymiwr gorila Cadbury fel hysbyseb ar gyfer bwyd (42%).
Dywedodd Mark Leyshon o Alcohol Concern: “Mae’r diwydiant diodydd yn mynnu’n gryf iawn nad ydyn nhw’n anelu eu hysbysebion at blant. Er hynny, mae’r astudiaeth newydd yma’n rhoi mwy o dystiolaeth bod negeseuon marchnata alcohol yn cyrraedd pobl ifanc sy’n llawer rhy ifanc i brynu alcohol yn gyfreithlon. Mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n gweld alcohol yn cael ei hysbysebu a’i hyrwyddo yn fwy tebygol o ddechrau ei ddefnyddio, o fod â disgwyliadau positif amdano, ac o yfed mwy os ydyn nhw eisoes wedi dechrau.
“Mae’n eglur bod angen rheolau mwy effeithiol er mwyn sicrhau na fydd negeseuon marchnata alcohol ond yn cyrraedd oedolion, ac na fyddan nhw’n ddeniadol i blant. Rhaid i ni edrych ar y dulliau gorau o wledydd eraill sy’n ceisio lleihau’r niwed sy’n dod o alcohol, a chreu fframwaith rheoleiddio sy’n gweithio.”
Mae Alcohol Concern yn cynnig y gallai deddfwriaeth y Loi Évin, sydd mewn grym yn Ffrainc ers dechrau’r 1990au, roi model ar gyfer y wlad hon. Mae rheolau hysbysebu’r Ffrancwyr cyfyngu’n sylweddol ar ddarlledu hysbysebion alcohol, ac yn gwahardd nawdd gan y diwydiant alcohol i ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon, sydd yn aml yn apelio’n arbennig i bobl ifanc. Lle y caniateir hysbysebu alcohol yn Ffrainc, rhaid iddo fod yn gwbl ffeithiol, heb gyfeirio ond at nodweddion y cynnyrch, fel ei gryfder, ble y cynhyrchwyd ef, ei gynhwysion, a’r dull cynhyrchu, a rhaid iddo gynnwys rhybudd iechyd clir.