Mwy o Newyddion
Polisiau Llywodraeth Cymru yn gyfystyr â buddsoddiad ym mhrifysgolion Lloegr
Mae llefarydd Plaid Cymru ar addysg Simon Thomas wedi ymateb gyda braw i gyfaddefiad y Gweinidog Addysg y bydd Llywodraeth Cymru yn talu ffioedd o hyd at £9,000 am bob myfyriwr Cymreig sydd yn astudio mewn prifysgol yn Lloegr, tra bydd ffioedd llawer o brifysgolion Cymru yn cael eu capio ar £7,500.
Dywed Mr Thomas fod hyn yn cyfateb i fuddsoddiad ym mhrifysgolion Lloegr, ar draul prifysgolion Cymru.
Dywedodd Simon Thomas: “Mae’n boenus o amlwg fod Llywodraeth Cymru yn dechrau sylweddoli na all fforddio eu polisi ffioedd dysgu ei hun, ond nid capio cyrsiau ym mhrifysgolion Cymru yw’r ateb.
"Mae’r Gweinidog Addysg yn barod i fuddsoddi hyd at £9,000 am bob myfyriwr Cymreig sydd yn astudio yn Lloegr, tra bydd yn gwario £7,500 am bob myfyriwr yn unig am lawer o gyrsiau ym mhrifysgolion Cymru.
“Yr hyn mae hyn yn olygu yw y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy am bob myfyriwr ym mhrifysgolion Lloegr nac ym mhrifysgolion Cymru, ac nid yw hyn yn gynaliadwy ac ni wnaiff ond lledu’r bwlch cyllido presennol.
“Os na all Llywodraeth Cymru fforddio eu polisi ffioedd dysgu, yna nid yw capio cyrsiau ym mhrifysgolion Cymru yn ateb. Mae ar brifysgolion Cymru angen buddsoddiad a chefnogaeth er mwyn cystadlu ar lwyfan y byd, ac ni ddylai Llywodraeth Cymru eu cosbi oherwydd eu lleoliad.
“Cefnogodd Plaid Cymru y polisi presennol pan oeddent yn llywodraeth Cymru’n Un a chawsom sicrwydd ei fod yn fforddiadwy. Yn awr, mae Llafur yn newid y polisi ac y maent mewn perygl o wanhau rhai o brifysgolion Cymru. Cyfaddefiad yw hyn o’u methiant i sicrhau cyllid digonol a chynaliadwy yn eu cyllideb.”
Llun: Simon Thomas