Mwy o Newyddion
Leanne Wood yw arweinydd newydd Plaid Cymru
Mae Leanne Wood wedi ei hethol yn arweinydd newydd Plaid Cymru.
Cafodd y canlyniad ei gyhoeddi ddydd Iau mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd a bydd Leanne Wood yn olynnu Ieuan Wyn Jones sydd yn trosglwyddo’r awennau ar ôl dros ddegawd yn y swydd.
Dywedodd Prif WeithredwrPlaid Cymru sy’n Swyddog Dynodedig ar gyfer yr etholiad hwn, Rhuanedd Richards: “Mae’n bleser gen i gyhoeddi mai Leanne Wood yw arweinydd newydd Plaid Cymru.
“Hoffwn longyfarch Elin Jones a Dafydd Elis-Thomas hefyd ar gynnal ymgyrchoedd egnïol ac ysbrydoledig. Gwn y bydd y ddau ohonynt yn parhau i wneud cyfraniad pwysig iawn wrth wasnaethu’r Blaid a Chymru.
“Mae gan ein harweinydd newydd swyddogaeth bwysig iawn i’w chyflawni ar ran ein cenedl dros y blynyddoedd tyngedfennol nesaf.
“Mae brwydro dros ddyfodol Cymru a’i chymunedau yn flaenoriaeth i bobl Cymru. Plaid Cymru yw’r unig blaid a fydd yn rhoi anghenion Cymru a’i phobl yn gyntaf.
“Edrychaf ymlaen at weithio gyda Leanne Wood wrth i ni barhau gyda’r gwaith o adnewyddu Plaid Cymru.
“Mae gan Blaid Cymru dîm o filoedd o ymgyrchwyr cymunedol ac aelodau sydd eisoes yn chwarae eu rhan wrth symud y Blaid a Chymru yn eu blaenau. Gwn eu bod nhw hefyd yn edrych ymlaen at gydweithio â Leanne Wood dros y blynyddoedd nesaf."
Dywedodd Arweinydd newydd Plaid Cymru, Leanne Wood: “Nid ymgyrch dros unigolion oedd hon. Ymgyrch dros weledigaeth – rhaglen, set o wleidyddiaeth gysylltiedig. Ein tasg nawr yw adeiladu ar waith y rhai ddaeth o'n blaenau ni. Efallai ein bod ni'n fach, fel plaid ac fel gwlad, ond gallwn gyflawni pethau mawr os safwn gyda'n gilydd ac os safwn dros ein hegwyddorion.
“Mae'r etholiad ar ben. Felly nawr mae'r gwaith go iawn yn dechrau. Efallai nad fi yw Arweinydd yr Wrthblaid Swyddogol, ond rwy'n bwriadu arwain y weledigaeth swyddogol. Y weledigaeth bod Cymru arall yn bosibl. Dim ond gan Blaid Cymru y gall y weledigaeth gadarnhaol, uchelgeisiol yma ddod.
“Felly dyma fy neges i bobl Cymru: ni yw eich plaid chi. Plaid y bobl, plaid a'i gwreiddiau yng Nghymru, ar gyfer Cymru. Ymunwch â ni. Helpwch ni i ailadeiladu eich cymuned. Helpwch ni i ailadeiladu'r economi. Gyda'n gilydd gallwn adeiladu Cymru newydd deg, Cymru newydd fydd yn ffynnu, a Chymru newydd rydd.”