Mwy o Newyddion
Gwaith Maes yr Helmau yn dod â’r swm gwariant ar wella ffyrdd yng Nghymru i fwy nag £76m
Heddiw (dydd Iau, 15 Mawrth), bydd gwaith yn dechrau i adeiladu ffordd newydd 2.1km o hyd fel rhan o’r A470 ym Maes yr Helmau – Cross Foxes.
Bydd y cynllun £11.3m, ychydig i’r dwyrain i Ddolgellau ac o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, yn disodli’r rhan bresennol o gefnffordd Caerdydd i Lan Conwy nad yw’n cyrraedd y safon ar hyn o bryd, gan wneud y ffordd yn fwy diogel i ddefnyddwyr.
Mae gwaith wedi dechrau ganol mis Chwefror hefyd i wella’r A477 rhwng San Clêr a Rhos-goch (£56.7m), ac ym mis Ebrill bydd gwaith yn dechrau ar y rhan o’r A470 wrth Gelligemlyn (£8.6m). Rhwng yr holl gynlluniau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo dros £76m ar wella’r seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru dros y pedair wythnos diwethaf.
Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog â chyfrifoldeb am Drafnidiaeth: “Mae gwaith Maes yr Helmau yn dystiolaeth i’n hymrwymiad i wella ein seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru.
“Er gwaethaf setliad ariannol anodd iawn, rydyn ni’n buddsoddi’n sylweddol mewn cynlluniau a fydd yn gwireddu ein gweledigaeth i gael system drafnidiaeth fodern a chynaliadwy.
“Mae trafnidiaeth yn rhan hollbwysig o’n bywydau ac mae cymryd y camau iawn yn y maes yma yn hanfodol er mwyn cynnal twf economaidd yng Nghymru.
“Yn ogystal â gwella ein seilwaith drafnidiaeth, bydd pob un o’r cynlluniau hyn yn hwb uniongyrchol i’r economi leol drwy greu gwaith a chyfleoedd hyfforddi yn ystod y gwaith adeiladu.”
 12 tro cas a’r ffaith ei bod yn anodd gweld ymhell iawn o’ch blaen, mae’r rhan o’r A470 wrth Faes yr Helmau wedi bod yn uchel ar restr flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran gwella cefnffyrdd yng Nghymru.
Caiff y ffordd newydd ei hadeiladu gan gwmni contractwyr Alun Griffiths.
Mae cefnffordd yr A470 rhwng Caerdydd a Glan Conwy yn gyswllt trafnidiaeth allweddol rhwng y Gogledd a’r De, ac yn gwasanaethu sawl cymuned. Mae hefyd yn llwybr ar gyfer trafnidiaeth fasnachol a lleol a thwristiaid.
Llun: Carl Sargeant