Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Mawrth 2012
Karen Owen

Caffaeliad mawr i’r coleg

MAE un o’r ymgyrchwyr mwyaf blaenllaw dros sefydlu Coleg Cymraeg Ffederal o fewn yr hen Brifysgol Cymru, wedi cael ei benodi’n aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol newydd.

Er bod y Prifardd Ieuan Wyn o Fethesda ger Bangor wedi treulio 33 blynedd yn athro ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, ac yn aelod a chadeirydd bwrdd llywodraethwyr ei gyn-ysgol uwchradd, Ysgol Dyffryn Ogwen, gwnaeth ei gyfraniad mwyaf tra’n ysgrifennydd mudiad Cylch yr Iaith a fu’n ymgyrchu’n ddiflino am Goleg Cymraeg, ymysg materion eraill.

Roedd Ieuan Wyn yn aelod o’r pwyllgor a fu’n gyfrifol, o dan arweiniad yr Athro Robin Williams, am gyflwyno Cynllun, a dderbyniwyd gan y Llywodraeth, ar gyfer sefydlu’r Coleg Cymraeg.

Yn ystod Cyfarfod Llys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gynhaliwyd ar Chwefror 28 penodwyd dau aelod newydd i Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg – sef Ieuan Wyn, a’r Athro Iwan Davies.

Cafodd cyfarfod blynyddol y Coleg ei gynnal yn Siambr y Cyngor Sir yn adeilad Neuadd y Brangwyn, Abertawe, ac yn dilyn hynny dywedodd Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg, yr Athro Merfyn Jones, ei fod yn falch iawn gyda’r penodiadau diweddaraf.

“Nid oes unrhyw amheuaeth y bydd cyfraniad y ddau at y gwaith mawr sydd o’n blaenau fel aelodau o’r Bwrdd yn un gwerthfawr dros ben," meddai.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |