Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Mawrth 2012

Pobl o flaen y gwleidyddion ar bwerau pellach i Gymru

Mae pobl Cymru o flaen y mwyafrif o’n gwleidyddion pan ddaw’n fater o bwerau pellach i Gymru. Dyna oedd y neges gan Ieuan Wyn Jones o Blaid Cymru ddydd Mercher wrth iddo gymryd rhan yn ei ddadl olaf yn y Senedd fel arweinydd ei blaid.

Yn ystod y ddadl, amlygodd Mr Jones y cynnydd mawr dros y blynyddoedd diwethaf yn nifer yr etholwyr sy’n credu mai’r Cynulliad yw’r lle iawn i wneud y penderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar fywydau pobl.

Wrth siarad yn ei ddadl olaf fel arweinydd Plaid Cymru, meddai Ieuan Wyn Jones AC: “Mae’r bobl yma yng Nghymru o flaen mwyafrif y gwleidyddion pan ddaw’n fater o bwerau pellach i Gymru. Pwy fuasai wedi credu ym 1999 y buasai dwy ran o dair o bobl Cymru yn 2012 o blaid pwerau amrywio trethi i Gymru ac y byddai 28% yn ystyried mai’r Cynulliad ddylai fod yn gyfrifol am bob treth? Ac eto dyna’r gwir.

“Yn ystod f’amser fel arweinydd y Blaid, gwelsom y Cynulliad yn tyfu ac yn aeddfedu. Cafodd ei gryfhau yn sylweddol pan enillwyd y refferendwm ar bwerau deddfu llawn yn bendant. O ganlyniad, mae mwy a mwy o bobl yn ystyried mai’r Cynulliad yw’r lle y dylai penderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar ein bywydau gael eu gwneud. Fe ddylem ni, fel gwleidyddion, ymateb yn gadarnhaol ac adeiladol i’r galw hwnnw.

“Mae datganoli yn rhoi’r cyfle i lunio polisi mewn ffyrdd sydd yn ategu dyheadau pobl Cymru. Mae pobl yn deall, er mwyn gwneud y gwaith yn iawn, fod arnom angen yr arfau iawn. Dyna pam eu bod am weld y Cynulliad yn cael yr hawl i amrywio trethi – am fod arnom angen pob arf posibl i gryfhau ein heconomi a gwella bywydau pobl.”

Llun: Ieuan Wyn Jones

Rhannu |