Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Mawrth 2012

Cyfle i fwrw golwg ar gynlluniau Academi Hwylio Pwllheli

Yn dilyn digwyddiad ymgynghori cyhoeddus calonogol iawn, bydd cynlluniau diweddaraf ar gyfer Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau arloesol newydd sy’n cael ei gyllido gan yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu harddangos mewn digwyddiad yng nghanolfan Hwylio Pwllheli, dydd Llun, 19 Mawrth.

Mae’r tîm dylunio wedi ymgorffori’r sylwadau a’r awgrymiadau a dderbyniwyd fel rhan o’r ymgynghoriad diweddar, a bydd Arddangosfa arall yn cael ei chynnal cyn gwneud cais cynllunio yng Nghlwb Hwylio Pwllheli dydd Llun, 19 Mawrth rhwng 4pm a 7pm. Bydd y digwyddiad yn gyfle i rannu’r cynlluniau diweddaraf gyda’r gymuned leol.

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, sy’n arwain ar Economi a Chymuned i Gyngor Gwynedd: “Mae gan Bwllheli hanes cyfoethog fel lleoliad hwylio a chwaraeon dŵr o bwys. Bydd yr Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau £8.3 miliwn yn galluogi’r ardal i ddenu mwy o ddigwyddiadau cenedlaethol mawreddog yn gyson i’r ardal, yn ogystal â rhoi hwb pwysig i’n sector gweithgareddau awyr agored lleol.

“Rydym yn ddiolchgar i bawb ddaeth draw i’r digwyddiad ymgynghori cyhoeddus. Mynychodd o ddeutu 150, a chymerodd lawer mwy o bobl y cyfle i weld y cynlluniau cychwynnol oedd i’w gweld yng nghlwb Hwylio Pwllheli ac yn Neuadd Dwyfor.

“Mae’r ymateb i’r cynlluniau cyffrous hyn wedi bod yn hynod o gadarnhaol ac rydym yn falch bod trigolion a busnesau lleol yn gallu gweld y cynlluniau newydd sy’n ymgorffori barn trigolion lleol.”

Mae’r prosiect £8.3 miliwn arloesol hwn wedi sicrhau o ddeutu £8 miliwn o raglen Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd ac o Gronfa Arian Cyfatebol Targed Llywodraeth Cymru.

Pan fydd yn agor yn 2013, bydd yr Academi Hwylio yn sicr o ddenu miloedd o dwristiaid ychwanegol i’r ardal bob blwyddyn, yn cynnig cyfleoedd hwylio a hyfforddiant gwych i bobl leol ac yn gyfleuster cymunedol o’r radd flaenaf i’r dref.

Yn dilyn yr Arddangosfa yma, bydd cais cynllunio manwl yn cael ei gyflwyno i’r Adran Gynllunio, ac os fydd yn cael ei gymeradwyo mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau yn hwyrach eleni, gyda’r prosiect yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2013.

Am ragor o wybodaeth am Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau, cysylltwch ag adfywio@gwynedd.gov.uk, 01286 679513 neu ewch i www.gwynedd.gov.uk/academihwylio

 

LLUN: Llun o’r awyr o sut y bydd yr Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau arfaethedig ym Mhwllheli yn edrych

Rhannu |