Mwy o Newyddion
Rhaid atal gwleidyddiaeth Lloegr rhag cosbi cleifion Cymru
Mae llefarydd Iechyd Plaid Cymru yn San Steffan, Hywel Williams AS, wedi ailadrodd rhybuddion y bydd Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lloegr, er gwaethaf datganoli, yn cael effaith sylweddol ar gleifion Cymreig.
Gyda’r Mesur yn cyrraedd ei gamau olaf a chlymblaid y Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr yn rhanedig ar y mater, mae Mr Williams wedi rhybuddio y bydd preifateiddio gwasanaethau yn Lloegr yn peryglu gwasanaeth arbenigol i gleifion Cymreig, yn achosi anhawsterau traws-ffiniol ac yn arwain at ganlyniadau ariannol hir-dymor i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Dywedodd Mr Williams: “Mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu’r Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol o’r dechrau.
“Rydym yn erbyn preifateiddio’r gwasanaeth iechyd a chyflwyno cystadleuaeth yn hytrach na chyd-weithio ble fo bywydau pobl yn y fantol.
“Dyna pam y cawsom wared ar farchnad fewnol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru pan oeddem mewn llywodraeth, yn ogystal â rhoi stop ar israddio ysbytai rhanbarth ac ymladd i sicrhau prescriptiwn am ddim.
“Bydd y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr yn cael effaith sylweddol ar gleifion Cymreig. Gwyddwn y bydd mwy na £11.5m o daliadau i ymddiriedolaeth Betsi Cadwaladr yn cael eu torri oherwydd y newidiadau hyn ac y bydd gwasanaethau arbenigol yn Lloegr a ddefnyddir gan gleifion Cymreig dan fygythiad o ganlyniad i’r preifateiddio sy’n debygol oherwydd y Mesur hwn.
“Y pryder mwyaf, er hynny, yw ei bod yn ymddangos nad ydi’r Gweinidog Iechyd dros Loegr yn deall effeithiau posib y newidiadau hyn ar gleifion Cymreig. Mae’r math hwn o anwybodaeth yn peri gwir fygythiad i gleifion Cymreig, a dyna pam na allwn gefnogi’r Mesur.
“Mae’r Mesur hefyd yn peri problemau hir-dymor ar gyfer ariannu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru oherwydd y gall preifateiddio gwasanaethau yn Lloegr olygu lleihad mewn nawdd llywodraethol a thoriad sylweddol yn y grant bloc i Lywodraeth Cymru, gyda dros 40% o hwnnw’n cael ei wario ar iechyd.
“Rhaid newid y fformiwla ariannu yng Nghymru fel na fydd cleifion Cymreig yn cael eu cosbi o ganlyniad i benderfyniadau gwleidyddion Lloegr.”