Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Mawrth 2012
Arwel Jones, Hogia’r Wyddfa.

Golff Criw Dydd Mawrth

“Deunaw twll a dynion teg
Yn chwennych un ychwaneg“
John Ogwen

Ar brynhawn braf ar gwrs golff Penmaenmawr yn y flwyddyn 2003 y penderfynodd pedwar cyfaill, Myrddin Owen, Vivian Williams, Arwel Jones, (tri aelod o Hogia’r Wyddfa) a’r actor John Ogwen, y byddent yn neilltuo pob dydd Mawrth i chwarae golff. Ychydig wyddai’r pedwar pryd hynny y byddai nifer y chwaraewyr yn cynyddu i dros gant erbyn 2012. Paratoir adroddiad o’r canlyniadau yn wythnosol a’i anfon drwy ebost i bawb.

Nid yw pawb yn gallu chwarae yn wythnosol, ond ar gyfartaledd disgwylir tua 25. Criw o ddynion o amrywiol alwedigaethau ac o wahanol ardaloedd ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yw’r mwyafrif sy’n ymgynnull mewn gwahanol glybiau golff. Nid yw’n gymdeithas, felly mae’n agored i unrhyw un sy’n dymuno troi i fyny i fwynhau sgwrsio, tynnu coes a gêm o golff. Ar y dechrau yr enillydd fyddai’n derbyn arian fel gwobr, ond ar awgrymiad Bryn Terfel, un o’r selogion cynnar, doethach fyddai casglu arian dros y flwyddyn ac yna rhannu’r cyfanswm rhwng achosion da lleol. Yn 2003 casglwyd £2,050 – yn ystod y tymor a aeth heibio casglwyd £8,200. Ers 2003 mae dros £50,000 wedi ei gasglu a’i rannu.

Er nad oes pwyllgor wedi ei sefydlu, mae’r Criw yn berffaith fodlon trefnu gêmau yn eu clybiau hwy eu hunain, ond ar yr un pryd yn ddiolchgar i dri person sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldebau, o gofnodi canlyniadau, bod yn ddolen gyswllt, trefnu penwythnosau golff a chasglu’r arian – Myrddin Hogia’r Wyddfa, Wil Griffiths Llangefni a Bob Walford o Abergele, un arall o’r selogion cynnar. Dyma restr o’r 33 mudiad sydd wedi elwa yn ystod y naw mlynedd; Ysgol Pendalar, Caernarfon, Ysgol Hafod Lon, Y Ffôr, Ty Gobaith, Ambiwlans Awyr, Childline Cymru, Cruse (gofal mewn galar), Ymchwil Cancr (Ovarian) Ysbyty Gwynedd, Clic (cancr mewn plant), Cwn Tywys Gwynedd, Samariaid, Ymchwil Spina Bifida, Uned a Chleifion Arennau Ysbyty Gwynedd, Cymorth Cristnogol( Apêl Darfur), Uned Babanod Ysbyty Glan Clwyd, Starfish (trawsblaniadau mewn plant), Cyfeillion Ysbyty Gwynedd, Chrisalis Gogledd Cymru, Ysgol Lali Bella Affrica (cysylltiad un o’r Criw), Ymchwil Parkinsons, Trychineb y Sunami, Sands (marwolaeth cyn geni ), Trychineb Haiti, Multiple Sclerosis, Cyfeillion Ysbyty Alltwen, Hospis St. Kentigen, Llanelwy, Hospis Dewi Sant, Llandudno, Gofal Cancr Macmillan, Ty Robert Owen, Lerpwl, Gofal Cancr Ysbyty Glan Clwyd (er cof am Geraint Davies, un o’r Criw), Ysgoloriaeth Coleg Meirion Dwyfor (er cof am Yr Athro Ieuan Jones, un o’r Criw), Sefydliad Prydeinig y Galon, Rhun ap Arwel Edwards, Porthmadog, Bad Achub Cricieth.

Mae’r Criw yn derbyn telerau chwarae arbennig gan y clybiau golff. Heb eu haelioni hwy ni fyddai’n bosibl chwarae mor gyson. Maen't wedi galluogi y Criw i hyrwyddo’r gwaith o gefnogi’r gwahanol achosion. Dymuna’r Criw ddiolch o galon i’r clybiau a ganlyn: Abergele, Abersoch, Bangor, Betws y Coed, Bae Trearddur, Betws yn Rhos, Baron Hill, Biwmaris, Bala, Caernarfon, Conwy, Clays, Cricieth, Dinbych, Hen Golwyn, Henllys, Harlech, Llaneurgain, Llan Ffestiniog, Llanfairfechan, Llandrillo yn Rhos, Maesdu,  Nefyn, North Wales, Penyberth, Penmeanmawr, Porthmadog, Pwllheli, Porthllechog, Plasau, Rhosneigr, Rhyl, Storws Wen, Treffynnon, Yr Wyddgrug.
Mae sawl clwb arall wedi estyn gwahoddiad i’r Criw, ond hyd yn hyn heb drefnu’n derfynol.

Bwriad y Criw yw parhau gyda’r gwaith yma sydd, wrth gwrs, yn rhoi cymaint o bleser iddynt ac yn rhoi cymaint o gefnogaeth i achosion eithriadol o bwysig o fewn eu cymunedau.


Rhannu |