Mwy o Newyddion
Cymru, Lloegr a Bahrain - Eisteddfod yr Urdd yn Llundain
Am y tro cyntaf erioed, fe gynhelir Eisteddfod Ranbarth Urdd Gobaith Cymru yn Llundain ddydd Sadwrn (17 Mawrth 2012). Cynhelir yr Eisteddfod yng Nghapel Jewin, yn ardal Barbican o Lundain a disgwylir dros 200 o gystadleuwyr o bob rhan o Loegr a thu hwnt, gan y bydd rhai cystadleuwyr yn ymuno â’r Eisteddfod o Bahrain drwy gysylltiad Skype.
Y darlledwr, Huw Edwards fydd yn agor yr Eisteddfod yn swyddogol am 10 y bore cyn i’r cystadlu mewn 35 o gystadlaethau fynd rhagddynt.
Bydd y mwyafrif o’r cystadleuwyr yn cystadlu’n fyw yn y Capel, ac eithrio tair chwaer o Bahrain fydd yn cystadlu am y tro cyntaf eleni drwy gysylltiad Skype. Bydd eu perfformiadau yn cael ei ddarlledu’n fyw ar sgrin fawr yn y Capel ac yn cael ei feirniadu yn yr un modd â’r cystadleuwyr eraill.
Y beirniaid fydd y gantores Fflur Wyn, Catrin Morris Jones, Rhian Medi Roberts, Nesta Owen, Sara Roberts a Deiniol Rees. Yn arwain o’r llwyfan fydd Sioned William, Iago Griffith a Rhian Jones.
Sefydlwyd yr Eisteddfod Rhanbarth i’r rhai sy’n byw y tu allan i Gymru wyth mlynedd yn ôl a hyd at eleni, mae’r Eisteddfod wedi ei chynnal mewn gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd. Yn dilyn twf sylweddol yn y nifer o gystadleuwyr yn yr Eisteddfod - sydd wedi cynyddu o 8 yn 2008 i dros 90 yn 2011 - ac adborth gan rai o’r cystadleuwyr, penderfynwyd cynnal yr Eisteddfod yn Llundain yn 2012.
Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: "Mae nifer gynyddol o aelodau’r Urdd yn byw dros y ffin ac yn awyddus i gystadlu yn yr Eisteddfod gyda’u bryd ar gyrraedd llwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr Eisteddfod yn ardal y Barbican ddydd Sadwrn ac, wrth gwrs yn dymuno’n dda i’r holl gystadleuwyr.
“Os yw’r arbrawf yma o gynnal yr Eisteddfod tu allan i Gymru yn llwyddiannus, efallai y byddwn yn ymweld â dinasoedd a chanolfannau eraill dros y ffin yn y dyfodol.”
Mae’r cystadleuwyr yn dod o bob rhan o Loegr a thu hwnt gan gynnwys Ysgol Cheethams, Manceinion, Ysgol Gymraeg Llundain, Aelwyd Llundain, Aelwyd yn Durham a Bahrain.
Bydd buddugwyr yr Eisteddfod yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a gynhelir ar dir Coleg Meirion Dwyfor, Glynllifon nepell o Gaernarfon rhwng 4 a 9 o Fehefin 2012.
Llun: Aled SIon