Mwy o Newyddion
Cyfarfod cyntaf grŵp cyfeirio yr ymchwiliad i ofal preswyl
Bydd grŵp cyfeirio o aelodau o’r cyhoedd yn cwrdd am y tro cyntaf ddydd Mercher, (14 Mawrth), fel rhan o ymchwiliad gan bwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ofal preswyl i bobl hŷn.
Mae’r grŵp yn cynnwys pobl o bob rhan o Gymru sydd â phrofiad uniongyrchol o gynnig cymorth i bobl sy’n derbyn gofal preswyl neu bobl a fydd angen gofal o’r fath o bosibl.
Nod y grŵp yw rhoi safbwynt personol i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad. Bydd gofyn iddynt hefyd roi eu barn am yr argymhellion gorau y gallai’r Pwyllgor eu gwneud i wella gwasanaethau gofal i bobl hŷn yng Nghymru.
Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae gofal preswyl yn fater sensitif ond pwysig – rydym yn sôn am boblogaeth sydd ag anghenion cymhleth cynyddol.
“Yn aml iawn, wrth drafod gofal preswyl, mae aelod hŷn o’r teulu – sydd angen gofal arbenigol efallai – yn rhan o’r trafodaethau. Gan hynny, gall gwneud penderfyniadau ynghylch y lefel briodol o ofal angenrheidiol, a lle gellir dod o hyd iddo, fod yn anodd iawn.
“Ein bwriad gyda’r ymchwiliad hwn yw archwilio pa lwybrau mae pobl yn eu cymryd i ofal preswyl a pha mor effeithiol mae gwasanaethau yn diwallu anghenion amrywiol poblogaeth hŷn Cymru.
“Mae’r Pwyllgor wedi sefydlu’r grŵp cyfeirio hwn oherwydd mae o’r farn bod profiadau personol a barn yr aelodau yn amhrisiadwy i’w drafodaethau.”
Mae’r grŵp cyfeirio yn cael ei gynorthwyo gan Age Cymru a Gofal Croesffyrdd Cymru.
Dywedodd Graeme Francis, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Age Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r gwaith pwysig hwn. Yn ystod ein bywydau, bydd gofal preswyl yn effeithio ar y mwyafrif ohonom mewn rhyw fodd ac felly, hefyd, bydd canfyddiadau’r ymchwiliad hwn.
“Dyna pam ei bod hi’n gwbl hanfodol bod tystiolaeth yr ymchwiliad hwn yn adlewyrchu realiti y system gofal preswyl yng Nghymru, ac rydym yn cymeradwyo’r Pwyllgor am roi llais i bobl sydd â phrofiadau o’r fath."
Dywedodd Angela Roberts, Cyfarwyddwr, Crossroads Cymru: “Mae hwn yn ffordd gwbl arloesol o ymdrin â phwnc sydd mor bwysig, ac rydym yn hynod falch ein bod yn rhan o’r broses ac yn cael y cyfle hwn i roi llais i bobl nad ydynt bob amser yn cael eu clywed.
“Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi gogwydd newydd ar ddemocratiaeth ar waith.”