Mwy o Newyddion
Effaith y newidiadau i’r system les ar famau a phlant
Mae ymchwil a gyhoeddir gan Achub y Plant yn dangos bod rhai mamau yng Nghymru mewn perygl o gael eu gwthio i dlodi gan effaith y newidiadau i’r system fudd-daliadau a gyflwynir gan Lywodraeth San Steffan.
Yn ôl adroddiad gan yr elusen gall bron i 54,000 o famau sengl sy’n gweithio ar incwm isel fod ar eu colled o gymaint â £68 yr wythnos o dan drefn y Credyd Cynhwysol newydd - digon i wthio rhai o dan y llinell dlodi.
Dywed Achub y Plant y bydd y newidiadau hefyd yn effeithio'r rhai sydd yn dod ag ail incwm i’r aelwyd - fel arfer merched - gyda rhai teuluoedd yn colli hyd at £1800 y flwyddyn.
Mae diweithdra ymhlith merched ar ei uchaf ers 23 mlynedd. Yma yng Nghymru mae wedi codi 6% mewn blwyddyn sy’n golygu fod 49,000 o ferched yn ddi-waith mewn cyfnod pan fo mamau eisoes yn ei chael hi’n anodd yn wyneb toriadau i gymorth gyda gofal plant, budd-dal plant a chredydau treth.
Mewn arolwg gan Achub y Plant a Netmums dywedodd 56% o famau di-waith yn y DU mai cost gofal plant oedd y prif reswm nad oeddynt yn gallu gweithio.
Yn ystod yr wythnos yn arwain at Sul y Mamau ac wrth i’r Canghellor George Osborne, baratoi i gyflwyno ei Gyllided ar 21 Mawrth, mae Achub y Plant yn lansio'r ymgyrch Mamau Unedig mewn cydweithrediad gyda Gingerbread, Daycare Trust a Netmums.
Mae’r elusen yn rhybuddio y bydd nifer o famau ar incwm isel yn cael eu gorfodi i gynyddu eu horiau neu fynd i ddyled er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd a chynnal eu plant. Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod y newidiadau yn ei gwneud hi’n anoddach i famau symud oddi ar fudd-daliadau i chwilio am waith oherwydd diffyg cefnogaeth o ran gofal plant.
Yn ôl James Pritchard, pennaeth Achub y Plant yng Nghymru mae’n rhaid i lywodraeth San Steffan ail-ystyried eu cynlluniau.
“Mewn cyfnod pan fo’r economi mewn cyni a gyda’r toriadau i’r gwasanaethau cyhoeddus bydd y newidiadau yma mewn budd-daliadau yn ergyd drom i deuluoedd hyd a lled Cymru. Wrth geisio newid y system fudd-daliadau mae’r llywodraeth mewn perygl o gondemnio cenhedlaeth o blant Cymru i fywyd o dlodi,” esboniodd.
“Does dim amheuaeth y bydd y Credyd Cynhwysol newydd yn helpu nifer o deuluoedd, ond mae ein hymchwil yn dangos nad oes digon o ystyriaeth wedi ei roi i sut y bydd yn effeithio rhai mamau sy’n gweithio i gadw eu pennau uwch y tonnau .
“Ni all mam sy’n ennill £370 yr wythnos fforddio i golli £70, fel y mae ein hymwchil ni yn ei ragolwg. Mae’r mamau yma eisiau gweithio er mwyn gallu cynnal eu plant tra’n jyglo costau byw a chostau gofal plant sy’n dal i godi. Os ydym am weld mwy o famau yn y gweithle dylent fod yn derbyn mwy o gymorth, nid llai. Mae’n rhaid i Lywodraeth San Steffan ail-edrych ar y Credyd Cynhwysol i wneud yn siŵr y gall mamau sy’n gweithio oriau hwy gadw mwy o’u hincwm a derbyn cymorth gyda gofal plant.
Cyn y Gyllideb nesaf mae Achub y Plant yn galw ar y Canghellor George Osborne i:
- Sicrhau bod mamau sengl sy’n gweithio yn gallu cadw mwy o’u hincwm cyn dechrau colli budd-daliadau, gan mai nhw yw’r unig rai sy’n ennill cyflog i gynnal y teulu.
- Sicrhau bod y rhai sy’n ennill yr ail incwm ar yr aelwyd yn cadw'r £2000 o’u henillion cyn colli budd-daliadau, yn yr un modd ag y mae’r prif gynheilydd yn ei wneud;
- Cynyddu’r gefnogaeth sydd ar gael tuag at gostau gofal plant i deuluoedd ar incwm isel o 70% fel y cynigir ar hyn o bryd i 80%, fel nad yw mamau yn cael eu prisio allan o waith.
Yn ôl dadansoddiad diweddar Llywodraeth Cymru o effaith y Bil Diwygio Lles ar Gymru gall tlodi plant yng Nghymru godi cymaint â 6,000 yn 2012-13.
Ychwanegodd James Pritchard: “Roedd datganiad diweddar Llywodraeth Cymru ar y Bil Diwygio Lles yn allweddol er mwyn anfon neges glir i San Steffan sut y bydd y newidiadau i’r system les yn effeithio Cymru – mae ein hymchwil yn tanlinellu y dylai canlyniadau hyn ar famau sy’n gweithio ffurfio rhan bwysig iawn o’r hafaliad.
“Ochr arall i’r geiniog yw sut y gall Llywodraeth Cymru chwarae ei rhan er mwyn lleihau’r baich ar famau drwy wneud yn siŵr fod gofal plant digonol ar gael iddynt. Amlinellodd eu datganiad polisi ar ofal plant yn 2011 y bwriad i wella’r ddarpariaeth gofal plant ar gyfer teuluoedd ar incwm isel yng Nghymru. Yn benodol dylai Llywodraeth Cymru edrych ar ffyrdd i amddiffyn, cynnal a datblygu'r ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer oriau ar-ôl-ysgol ac yn ystod y gwyliau er mwyn cefnogi mamau sengl a’r rhai sy’n dod ag ail incwm i’r aelwyd i allu gweithio mwy o oriau.
“Mae’n amser i roi geiriau ar waith neu bydd yn rhy hwyr i filoedd o blant yng Nghymru.”
I ymuno a chefnogi ymgyrch Mamau Unedig Achub y Plant ewch i www.savethechildren.org.uk/mums-united neu dilynwch yr ymgyrch ar #MumsUnited.