Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Mawrth 2012

Pen-blwydd cyntaf The Passion

Y Pasg hwn, bydd National Theatre Wales a Rondo Media yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ym Mhort Talbot i nodi pen-blwydd cyntaf cynhyrchiad arloesol The Passion, gyda’r cast a’r criw yn bresennol yn cynnwys Michael Sheen ac Owen Sheers.

 

 

Arddangosfa o Atgofion

Bydd National Theatre Wales, a gynhyrchodd cynhyrchiad theatr y llynedd gyda WildWorks, yn cynnal arddangosfa o atgofion amlgyfrwng yng Nghanolfan Siopa Aberafan. Gwahoddir pawb a phob un a gymerodd ran yn y cynhyrchiad neu ei weld, naill ai yn bersonol neu ar-lein i gyfrannu lluniau neu fideos o’u hoff atgof o’r Pasg diwethaf i’r arddangosfa. Bydd eitemau eraill fydd yn cael eu harddangos yn cynnwys gwisgoedd, a phropiau. Bydd sied yn cael ei gosod yn y ganolfan siopa o ddydd Llun 2il Ebrill y gwahoddir y cyhoedd iddi i gofnodi eu hatgofion a straeon am y sioe. Bydd yr arddangosfa i’w weld ar ddydd Gwener y Groglith, dydd Sadwrn a dydd Sul y Pasg, a bydd mynediad Aam ddim.

Dywedodd Michael Sheen: "Meddyliwch am y pethau sydd wedi aros gyda chi, ysgrifennwch hwy i lawr neu eu paentio, neu dewch a gadael i ni eich recordio yn siarad amdanynt.

"Os ydych wedi creu unrhyw beth mewn ymateb i’r hyn a brofwyd gennych y Pasg diwethaf, anfonwch ef i mewn fel y gall fod yn rhan o’r arddangosfa hon. A dewch i ni gofio a dathlu nid yn unig yr hyn y gwnaethom oll ei helpu i ddigwydd flwyddyn yn ôl, ond hefyd beth y mae wedi’i greu ers hynny, a’r hyn y gall barhau i’w ysbrydoli yn y dyfodol.”

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno cynnwys ar gyfer yr arddangosfa sy’n cynrychioli eu hoff atgof e-bostio i passion@nationaltheatrewales.org , rhoi blog ar gymuned arlein National Theatre Wales ar community.nationaltheatrewales.org neu ei bostio i National Theatre Wales, 30 Arcêd y Castell, Caerdydd, CF10 1BW, erbyn Dydd Mercher 4ydd o Ebrill 2012. Bydd y trefnwyr hefyd yn y ganolfan siopa o ddydd Llun 2il Ebrill i gasglu cyflwyniadau.

 

 

Dangosiad cyntaf y byd o The Gospel of Us

Yn dilyn y digwyddiad o atgofion, bydd y cyfarwyddwr ffilm Dave McKean yn cyflwyno dangosiad cyntaf y byd o’i ffilm nodwedd ffuglen The Gospel Of Us, gyda Michael Sheen yn y brif ran.

Ar gyfer y ffilm dwy-awr hon, mae McKean wedi plethu golygfeydd dramatig allweddol y ddrama gyda’i gelfyddyd weledol i ddod â’r addasiad cryf hwn o The Passion i sinemâu. Mae The Gospel Of Us yn gynhyrchiad Rondo Media mewn cydweithrediad ag Asiantaeth Ffilm Cymru, wedi’i gyd-gynhyrchu â National Theatre Wales a WildWorks.

Bydd dangosiad cyntaf y byd yn digwydd yn sinema’r Apollo, mewn sgriniad a gyflwynir gan Dave McKean a Michael Sheen. Bydd tocynnau ar gael i’w prynu gan swyddfa docynnau’r Apollo 0871 220 6000 ac o www.apollocinemas.com. Bydd sgriniadau cyhoeddus ychwanegol yn dilyn ar ddydd Llun y Pasg (9fed o Ebrill), manylion i ddilyn. Bydd The Gospel Of Us yn cael ei dangos ar draws y DU yn ystod y Gwanwyn, yn dilyn dangosiad cyntaf y byd ym Mhort Talbot.

 

 

Digwyddiadau eraill a gynlluniwyd

Bydd Michael Sheen yn mynychu sesiwn Holi ac Ateb a gynhelir gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn yr arddangosfa am 2.30pm ar ddydd Sul y Pasg. Bydd y digwyddiad hwn AM DDIM.
Mi fydd copïau wedi’u llofnodi o nofela gwreiddiol Owen Sheers, wedi’i gyhoeddi gan National Theatre Wales, ar werth yn yr arddangosfa.
Bydd Owen Sheers yn llofnodi copïau o’i lyfr The Gospel of Us, wedi’i ail-gyhoeddi gan Lyfrau Seren, yn Llyfrgell Port Talbot, Llawr 1af, Canolfan Siopa Aberafon, ar ddydd Sadwrn 7fd Ebrill am 1yh.

 

 

The Passion

 

Cyd-gynhyrchiad gan National Theatre Wales a WildWorks oedd The Passion, wedi’i leoli mewn lleoliadau ar draws Port Talbot dros 72 awr ar benwythnos y Pasg 2011. Yn y brif rôl roedd Michael Sheen fel Yr Athro, cast o 12 actor proffesiynol a 1,000 o berfformwyr gwirfoddol o’r dref, a chafodd ei gyd-gynhyrchu gan Sheen a Bill Mitchell o Wildworks. Gwelodd filoedd o bobl y cynhyrchiad yn fyw ym Mhort Talbot, a gwelodd lawer mwy y gwaith ar-lein drwy safle www.port-talbot.com. Denodd adolygiadau gwych gan adolygwyr dros y byd, a chafodd ei enwi gan bron pob un o feirniaid papurau trymion y DU yn sioe orau’r flwyddyn.

Rhannu |