Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mawrth 2012

Penodi Lowri Rhys Davies i arwain BBC Radio Cymru

Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi mai Lowri Rhys Davies sydd wedi ei phenodi yn Olygydd Rhaglenni Cyffredinol.

Bydd Lowri yn cydweithio yn agos gyda phennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru Wales, Sian Gwynedd, a bydd hi’n gyfrifol am gomisiynu a goruchwylio holl raglenni cyffredinol yr orsaf - yn rhaglenni mewnol ac annibynnol.

Yn gynhyrchydd BBC Radio Cymru ers 2003, mae Lowri hefyd wedi cael profiad fel is-olygydd ar gyfnodau gwahanol ers 2008. Yn ystod y cyfnod yma, bu’n gyfrifol am reoli staff yng Nghaerdydd a rhoi adborth cyson ar raglenni mewnol ac allanol gan drafod a datblygu syniadau gyda chwmn?au annibynnol ac ymdrin â rhaglenni amrywiol.

Meddai Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg, Sian Gwynedd: “Mae gan Lowri flynyddoedd lawer o brofiad o gynhyrchu rhaglenni radio ac o arwain timau cynhyrchu. Mae ganddi adnabyddiaeth dda o Radio Cymru fel gorsaf a rydw i’n siwr y bydd hi yn cyflawni gofynion y swydd newydd hon ac yn gosod sylfeini cadarn i’r orsaf yn y dyfodol.”

Meddai Lowri Rhys Davies: “Mae Radio Cymru’n bwysig iawn i mi yn bersonol - dyma’r orsaf y cefais i fy magu yn gwrando ar ei rhaglenni, a dwi wedi cael y fraint o weithio fel cynhyrchydd yma ers bron i ddegawd.

"Dwi’n edrych ymlaen yn fawr rwan i arwain y timau sy’n gweithio ym Mangor a Chaerdydd drwy gyfnod o newid a sicrhau fod Radio Cymru’n parhau i gynhyrchu rhaglenni cryf a chreadigol sy’n berthnasol i’n cynulleidfa.”

Rhannu |