Mwy o Newyddion
Arweinwyr trawsbleidiol yn cefnogi datganoli darlledu
Mae arweinwyr deg o awdurdodau lleol Cymru wedi datgan eu cefnogaeth i ddatganoli pwerau dros y cyfryngau i Gymru.
Ymhlith y rhai sydd wedi cefnogi ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mae'r Cyng. John Davies (Annib), arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Sir Benfro, Russell Roberts (Llaf.), arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Peter Fox (Ceid.), arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Cyng. Allan Pritchard (Plaid Cymru) Arweinydd Cyngor Sir Caerffili a Cyng. Keith Evans (Dem. Rhydd), Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Arwyddwyd y datganiad hefyd gan arweinwyr cyngor Sir Fflint, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Powys a Chonwy.
Rhoddwyd cefnogaeth i’r datganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros y cyfryngau yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i godi llais ar y mater. Mae’r datganiad, sydd yn cael ei gefnogi yn drawsbleidiol, yn mynd o dan y pennawd ‘gadewch i ni daclo darlledu yng Nghymru’.
Mae’r Gymdeithas wedi codi nifer o bryderon ynghylch sefyllfa'r Gymraeg yn y byd darlledu yn ddiweddar, megis y bygythiad y bydd Radio Ceredigion yn cael gwared â’i allbwn Cymraeg, penderfyniad Llywodraeth San Steffan i wrthod amodau Cymraeg ynghylch teledu lleol, y cwtogiadau o 40% i gyllideb S4C a’r diswyddiadau yn BBC Cymru.
Dywedodd Adam Jones, Cadeirydd y Grŵp Digidol: “Mae'r gefnogaeth eang rydym wedi derbyn gan aelodau o bob plaid yn dangos yn glir y consensws sy'n bodoli o blaid datganoli darlledu i Gymru. Mae hefyd yn profi nad all y Llywodraeth laesu dwylo ar y mater hwn bellach. Yn wir mae'r cyfryngau yng Nghymru yn wynebu dim llai nag argyfwng ac mae'n rhaid i ni ymateb i'r problemau nawr. Mae'n destun o falchder i ni fod cynifer o bobl o bob plaid wedi cytuno ag egwyddorion ein proclamasiwn.”
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:“Mae’r cyfryngau yng Nghymru yn wynebu dyfodol ansicr iawn os na wnawn ni rywbeth nawr. Rydyn ni wedi gweld yn ddiweddar agwedd San Steffan tuag at ddarlledu yn y ffordd y gwnaethon nhw ddiystyru pobl Cymru a phwysigrwydd S4C wrth benderfynu ar ddyfodol y sianel. Yr unig ffordd i atal penderfyniadau annoeth yn y dyfodol yw sicrhau nad nhw sydd yn cael penderfynu ar y materion yma. Yr hyn sydd ei angen yw datganoli cyfrifoldeb fel y gallwn ni greu strwythur cryf a Chymreig i ddarlledu bydd yn rhoi blaenoriaeth i'n cymunedau. Mae'n bryd nawr i'n Haelodau Cynulliad sefyll lan a mynnu bod yr holl rymoedd dros ddarlledu yn dod yma i Gymru, a phwyso ar San Steffan nes bydd hynny'n digwydd."
Mae'r unigolion a'r cyrff canlynol wedi arwyddo’r datganiad dros ddatganoli darlledu i Gymru: Mohammad Ashgar AC, Cyng. Peter Fox Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Cyng. Chris Holley Arweinydd Cyngor Sir Abertawe, Cyng. Bob Parry, Sir Fôn, Cyng. Russell Roberts Arweinydd Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf, Cyng. E. Michael Jones Arweinydd Cyngor Sir Powys, Leanne Wood AC, Elin Jones AC, Rhodri Glyn Thomas AC, Bethan Jenkins AC, Hywel Williams AS, Jonathan Edwards AS, Llyr Huws Gruffudd AC, Cyng. Keith Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Cyng. Dilwyn Roberts Arweinydd Cyngor Sir Conwy, Cyng. Andrew Morgan Aelod Cabinet Rhondda Cynon Taf, Cyng. Mel Nott Arweinydd Cyngor Sir Pen-y-bont, Merched y Wawr, Cyng. Phil Bevan Caerffili, Cyng. Allan Pritchard Arweinydd Cyngor Caerffili, Arnold Wolley Arweinydd Cyngor Sir y Flint, Mohammed Ashgar AC, John Davies Arweinydd Cyngor Sir Benfro a Chadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Elfyn Llwyd AS, Dafydd Ellis Thomas AC, Cynog Dafis cyn Aelod Seneddol, Yr Arglwydd Elystan Morgan ac Elaine Edwards (UCAC).