Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Awst 2015

Rasio ym Mae Caerdydd

Bydd dyfroedd Bae Caerdydd yn fwrlwm o weithgarwch y penwythnos hwn wrth i ŵyl y banc ola’r haf ddechrau gyda Grand Prix y Môr P1 Cymru.
 
Bydd cychod pŵer P1 a sgis jet yn rasio ym Mae Caerdydd ar 30 a 31 Awst ym mhedwaredd rownd Pencampwriaethau SuperStock ac AquaX UK.
 
Noddir y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru a bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart, yno ddydd Sul.
 
Dywedodd y Gweinidog: “Bydd y penwythnos hwn yn gyfle penigamp i hyrwyddo Bae Caerdydd a Chymru fel lle o safon byd i gynnal gornestau hwylio a champau’r dŵr ynddo ac fel cyrchfan ddeniadol ac amrywiol i ymwelwyr. 

"Mae gennym rai o leoliadau, cyfleusterau a gwestai o’r ansawdd uchaf yn y Deyrnas Unedig yma yng Nghymru.  Gobeithio y caiff y cefnogwyr gyfle i weld a phrofi’r hyn sydd gennym i’w gynnig wrth fwynhau croeso enwog y Cymry.”
 
Daw’r digwyddiad hwn â haf prysur o ddigwyddiadau uchel eu proffil i ben, gyda’r hydref yn addo cyfleoedd pellach i godi proffil Cymru ym mhedwar ban byd.
 
Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Mae yna gydnabyddiaeth a chyffro bellach bod Cymru’n gallu cynnal rhai o’r digwyddiadau rhyngwladol mwyaf ym myd y campau.

"Mae’r haf wedi bod yn gymysgedd o ddigwyddiadau rhyngwladol eiconig gyda llond gwlad o ddigwyddiadau llai i ychwanegu at fwrlwm y gweithgareddau. 
 
“Mae’r digwyddiadau a noddir gan Lywodraeth Cymru’n hwb i economïau lleol a’r llynedd, roedd ein rhaglen o nawdd i ddigwyddiadau mawr yng Nghymru wedi esgor ar fwy o na £54 miliwn o wariant ychwanegol.

" Rydym wedi cymryd camau breision i feithrin lle amlwg i Gymru ar lwyfan digwyddiadau’r byd ac edrychwn ymlaen yn awr at gynnal Grand Depart y Tour of Britain fis nesaf, yn ogystal â Phencapwriaethau Rhedeg Mynydd y Byd ac wrth gwrs wyth o gemau Cwpan Rygbi’r Byd yn Stadiwm y Mileniwm.
 
“Mae’n ddyddiau da ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru a byddwn yn cynnal arolwg ar ôl gŵyl y banc i fesur perfformiad y diwydiant dros fisoedd prysur yr haf. 

"Mae’r arwyddion cyntaf ar gyfer 2015 yn argoeli’n dda gyda nifer y stafelloedd oedd yn brysur yn y chwe mis cyntaf wedi cynyddu.

"Mae’r ffigurau’n dangos hefyd bod Cymru wedi llwyddo i gynyddu ei chyfran o wariant y farchnad twristiaeth ddomestig yn chwarter cyntaf y flwyddyn, gyda gwariant ar ymweliadau â Chymru wedi codi 28 y cant, o’i gymharu â chynnydd o 21 y cant yn holl wledydd y DU. 

"Gan ddilyn y flwyddyn orau erioed yn 2014, rydym yn parhau i gydweithio’n glos â’r diwydiant i gynnal y ffigurau ardderchog hyn.” 
 

Rhannu |