Mwy o Newyddion
Llŷr Williams yn ôl ar ei domen ei hun
Ganol yr haf roedd Llŷr Williams yn cyfeilio fel arfer yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd.
Ers hynny mae wedi bod yn teithio’r byd ei hun. Bu’n rhoi datganiad ym Mecsico ac mae newydd ddychwelyd o Chicago fel rhan o Ŵyl Gerddorol Ravinia.
Dyma’r ŵyl awyr agored hynaf yn America a chartref Cerddorfa Simffoni Chicago dros fisoedd yr haf.
Ond mae neuadd gyngerdd yno hefyd ac yno yr oedd Llŷr fel nifer o berfformwyr rhyngwladol eraill megis Itzak Perlman, Emanuel Ax a Frederica von Stade yn perfformio. Roedd yn chwarae gweithiau gan Schubert, Schumann a Chopin.
Y penwythnos yma bydd Llŷr yn teithio i Toulouse yn Ffrainc i gyflwyno datganiad yng Ngŵyl Jacobins. Dyma’r drydedd waith iddo berfformio yno a bydd yn perfformio gweithiau gan Beethoven, Albeniz a Mussorgsky.
Dros y tymor nesaf bydd yn ymddangos 5 gwaith yn Neuadd Wigmore Llundain - 3 datganiad piano ac yna’n cyfeilio i feiolinydd o Awstria a baritôn o’r Unol Daleithiau.
Bydd hefyd yn perfformio yn Awstria ac yn yr Almaen fwy nag unwaith.
Fodd bynnag ar Nos Sadwrn 19 Medi am 7-30 fe fydd cyfle prin i glywed Llŷr Williams ar ei domen ei hun, sef yn y Stiwt Rhosllannerchrugog.
Bydd yn cyflwyno rhai o weithiau enwocaf Beethoven gan gynnwys un o’i weithiau mwyaf, sef Sonata 21 sy’n cael ei hadnabod fel y Waldstein yn ogystal ag Amrywiadau’r Eroica.
Mae tocynnau £15, £12 (gostyngiadau) a £10 dan 16 oed ar gael o Swyddfa Docynnau’r Stiwt yn ystod oriau gwaith ar 01978 841300 neu e.bost: admin@stiwt.co.uk
Llun: Nadine Koutcher o Belarŵs enillydd Canwr y Byd Caerdydd 2015 efo Llŷr