Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Medi 2015

Gŵyl Rhif 6 yn cynnig profiad o safon fyd-eang

Mae Gŵyl Rhif 6, yn lleoliad unigryw Portmeirion, yn un o’r profiadau o safon fyd-eang y mae Gogledd Cymru’n eu cynnig i ymwelwyr. Dyna a ddywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wrth ymweld â safle’r Ŵyl heddiw.

Ym mis Medi 2012 y cynhaliwyd yr Ŵyl hon am y tro cyntaf, ac mae bellach wedi magu tipyn o enw da. Disgwylir 15,000 o bobl yno eleni a bydd 80% o’r rheini o’r tu allan i Gymru.

Mae’r Ŵyl eisoes wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr  Gŵyl Newydd Orau’r DU, Gwobr Gŵyl Fach Orau’r NME, Gŵyl Fach Orau gan  Wobrau ‘Live Music Business’ a gwobr am Safle Unigryw gan Gymdeithas y Gwyliau Annibynnol yn 2014.

Consortiwm o’r enw FN6 sy’n rhedeg y digwyddiad – partneriaeth o gwmnïau llwyfannu, cynhyrchu a marchnata digwyddiadau sy’n gweithio ochr yn ochr â Portmeirion Cyf. fel rhan o ymgyrch i ddenu ymwelwyr newydd i’r ystâd.

Eleni, rhwng 3 a 6 Medi, bydd amrywiaeth o westeion yn cymryd rhan, gan gynnwys Grace Jones, James, Côr Meibion y Brythoniaid a Steve Coogan.

Hefyd, bydd cyfle i flasu cynnyrch lleol yn y Farchnad Cynnyrch Cymreig a digonedd o adloniant o fyd y celfyddydau, gyda theatr stryd, gosodiadau celf, comedi a ffilmiau, yn ogystal â danteithion blasus i blesio pawb.

Ymhlith yr atyniadau i blant bydd hyfforddiant môr-ladron, gemau Olympaidd morol neu barth hamddena arbennig i’r plant lleiaf.

Yn 2013 llofnododd Llywodraeth Cymru gytundeb tair blynedd i gefnogi Gŵyl Rhif 6.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Mae Gŵyl Rhif 6, yn lleoliad unigryw Portmeirion, yn cynnig profiad arbennig iawn i ymwelwyr ac mae’n braf gweld bod yr Ŵyl wedi tyfu ers iddi gael ei sefydlu yn 2012.

“Mae Portmeirion yn lle mor hynod yn barod – ac mae’r digwyddiad hwn yn gwneud yn fawr o hynny drwy ddenu mwy byth o bobl fwynhau’r safle a’r ardal o gwmpas.

“Dim ond un o’r datblygiadau twristaidd o safon fyd-eang yn y Gogledd yw hwn. Mae Surf Snowdonia wedi agor yn ddiweddar yn Nolgarrog, Zip World ym Methesda a Blaenau Ffestiniog, ac mae Rali Cymru GB yn ddigwyddiad mawr arall sy’n gwneud yn fawr o dirwedd wych y Gogledd.”
 

Llun: Mark Ronson

Rhannu |